Ymweliadau grŵp a Theithiau

Ydych chi’n ysgol, yn brifysgol, neu’n sefydliad addysgol arall sy’n gobeithio ymweld â ni gyda grŵp o 10 neu fwy? Edrychwch sut gallwn ni gefnogi eich ymweliad.

Sinema a theatr

Os hoffech archebu ymweliad grŵp i ymweld â’n theatr neu sinema, llenwch y ffurflen isod a bydd ein tîm yn cysylltu â chi.

Rydyn ni’n cynnig un tocyn oedolyn am ddim gyda phob 10 tocyn myfyriwr.

Er sylw: Mae ffi trafodion o £1 i bob archeb. Gweler Gwybodaeth am docynnau i gael rhagor o fanylion.

Oriel

Mae mynediad i’r oriel am ddim. Rydyn ni ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul 11am-5pm, ac mae croeso cynnes i grwpiau. Os hoffech drefnu cyflwyniad i’r arddangosfa am ddim gyda grŵp, rhagarchebwch bythefnos cyn eich ymweliad gan ddefnyddio’r ffurflen isod.

Os byddai'n well gennych ymweld ar ddydd Llun, gallwn geisio darparu ar gyfer eich grŵp, ond ni fydd hyn bob amser yn bosib.