
Teuluoedd
Mae ein lleoliad yn addas i deuluoedd ac rydyn ni’n croesawu ymwelwyr o bob oed. Rydyn ni am danio’r dychymyg a chefnogi dysgu a chwarae creadigol.
Yn fwy na dim, rydyn ni am i Chapter fod yn lle hwyliog, diddorol a diogel lle gall pobl ifanc a’u teuluoedd dreulio amser gyda’i gilydd a dod i nabod pobl eraill yn ein cymdogaeth.
Parhewch i ddarllen i weld sut rydyn ni’n cefnogi teuluoedd.
Mae gan ein lleoliad gaffi bar agored a digon o le i ddifyrru’r rhai bach.
Mae ganddon ni ystod o gemau a phosau i’w chwarae pan fyddwch chi’n aros am fwyd neu ffilm. Mae creonau a thaflenni lliwio hefyd ar gael, wedi’u creu gan ein cyfoedion stiwdio Flossy and Boo. Mae’r rhain ar gael wrth ein Desg Wybodaeth.
Rydyn ni’n croesawu bwydo ar y fron, ac mae digon o lefydd tawel os hoffech fynd i rywle o’r golwg.
Mae digonedd o gadeiriau uchel yma i’w defnyddio.
Ewch i’n tudalen Ymweld i gael gwybodaeth am oriau agor a theithio.
Ewch i’n tudalen Hygyrchedd a Chyfleusterau i gael gwybodaeth am hygyrchedd, parcio a thoiledau.
Rydyn ni’n gweini prydau iach i foliau bach, gan gynnwys brechdanau, pasta cawslyd a stribedi cyw iâr di-glwten. Dyma ein bwydlenni llawn.
Yn ystod gwyliau’r ysgol, rydyn ni’n cynnig pecynnau cinio am ddim i blant o dan 18 oed. Cadwch lygad am ein gwirfoddolwyr cyfeillgar sy’n dosbarthu ein bagiau cinio streipiog sy’n llawn danteithion! Rydyn ni’n darparu ar gyfer pawb, gydag opsiynau figan, llysieuol, halal a di-glwten ar gael.
Mae ein rhaglen deuluol yn cynnig digwyddiadau hygyrch a chost isel drwy gydol y flwyddyn. Edrychwch beth sydd ’mlaen.
Oriel
Gadewch i’ch dychymyg lifo am ddim yn ein horiel. Gallwch ymweld â’r arddangosfa o ddydd Mawrth tan ddydd Sul, 11am-5pm.
Mae cynorthwywyr cyfeillgar yr oriel yn hapus i sgwrsio am y gwaith i ysbrydoli meddyliau bach!
Mae taflenni lliwio a phecynnau synhwyraidd, sy’n cynnwys teganau ffidlan ac amddiffynwyr clustiau, ar gael bob amser i gyd-fynd â’n harddangosfeydd.
Dylech nodi bod rhaid i oedolion fod gyda phlant o dan 14 oed gan fod ein harddangosfeydd yn gallu cynnwys deunydd sy’n fwy addas i oedolion neu waith cywrain iawn sy’n fregus i ddwylo bach chwilfrydig.
Sinema
Rydyn ni’n cynnig ffilmiau cost-isel i’r teulu ar fore Sadwrn gyda thocynnau £3. Mae’r dangosiadau yma’n ymlaciol gyda mwy o olau. Mae croeso i chi fynd a dod, a dod â byrbrydau i gadw pawb yn hapus! Rydyn ni’n cynnig ystod o opsiynau melys a sawrus yn ein caffi bar, gan gynnwys popcorn, losin figan a chreision.
Mae ein ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch ar fore Gwener ar gyfer rhieni a gwarcheidwaid sydd â babanod o dan 12 mis oed. Mae’r amgylchedd yn ymlaciol a does dim angen pryderu dim am darfu ar eraill. Am ddim i fabanod.
Os hoffech integreiddio ffilm i addysg pobl ifanc, cymerwch gipolwg ar ein cyfoedion stiwdio Into Film Cymru.
Theatr
Rydyn ni’n dangos perfformiadau addas i’r teulu drwy gydol y flwyddyn – mae ein rhaglen i’w gweld isod. Cydwch lygad ar ein cyfoedion stiwdio Theatr Iolo, Flossy & Boo a Theatr Taking Flight sy’n cynhyrchu gwaith theatr gwych i’r teulu.
Caffi Bar
Drwy gydol y flwyddyn, rydyn ni’n cynnal ystod o ddigwyddiadau am ddim yn ein gofodau cymdeithasol ac yn ein gardd gymunedol hyfryd. Mae’r rhain yn cynnwys dawnsio, perfformiadau, gwyliau, a gweithdai celf a chrefft. Dyma ffordd wych o ddod â’r gymuned at ei gilydd, ac maen nhw fel arfer yn cynnwys ystod o weithgareddau i bobl ifanc. Cofrestrwch i fod ar ein rhestr e-bost i fod gyda’r cyntaf i wybod amdanyn nhw!
Dosbarthiadau
Mae ein cymuned greadigol yn cynnig ystod ddeinamig o ddosbarthiadau wythnosol yn ein hadeilad. O ddawnsio tap a bale i gerddoriaeth, Tae Kwondo a drama, bydd rhywbeth yn sicr at ddant eich rhai bach. Dyma’r dosbarthiadau rydyn ni’n eu cynnal.
Er diogelwch plant, mae’n rhaid i oedolion neu warcheidwad fod gyda phob plentyn o dan 12 oed yn ein hadeilad.
Oherwydd ein trwydded, ni allwn ganiatáu pobl ifanc o dan 18 oed yn yr adeilad ar ôl 9pm. Nid yw hyn yn cynnwys pobl sy’n mynd i weld ffilm, perfformiad neu ddosbarth sy’n gorffen ar ôl yr amser yma.
What's on
-
- Film
Sgrechiwch fel y Mynnwch: Flow (U)
Cat is a solitary animal, but as its home is devastated by a great flood, he finds refuge on a boat populated by various species, and will have to team up with them despite their differences.
-
- Film
Ffilm teulu: Wicked Singalong (PG)
Ymunwch a ni am ddangosiad canwch ynghyd o Wicked!
-
- Film
Carry on Screaming: Mr Burton (12A)
The moving story of how wild Richie Jenkins became one of the greatest actors in the world.