Gwybodaeth Tocynnau
Sut i archebu
Ar ein gwefan
Archebu tocynnau ar-lein ymlaen llaw yw’r ffordd orau o osgoi cael eich siomi. Gallwch archebu tocynnau tan chwarter awr cyn yr amser dechrau a hysbysebwyd, oni bai y nodir fel arall. Gallwch un ai gasglu’r tocynnau o’r Desg Wybodaeth neu ddangos e-bost cadarnhau’r archeb i’r Tywyswyr.
Wrth y ddesg wybodaeth
Gallwch archebu tocynnau wrth y Ddesg Wybodaeth unrhyw bryd ac gall ein tîm rhannu gwybodaeth am ffilmiau, perfformiadau a digwyddiadau eraill sydd i ddod.
Dros y ffôn
Gall ein tîm gallwch archebu tocynnau a rhannu gwybodaeth am ffilmiau, perfformiadau a digwyddiadau eraill sydd i ddod dros y ffôn ar 029 2031 1050.
Mae'r holl docynnau’n amodol ar yr hyn sydd ar gael.
Sinema
Drwy’r dydd: £9 / £7 consesiynau
Mae consesiynau ar gael i:
• Fyfyrwyr (rhaid dangos cerdyn UCM dilys)
• Pobl dros 60 oed
• Plant (17 oed neu’n iau)
• Di-waith Cofrestredig
• Anabl (tocynnau cydymaith am ddim drwy Hynt a CEA)
• Tenantiaid Chapter
• Aelodau Chapter
Mae ffi trafodion o £1 i bob tocyn.
Theatr a Pherfformiadau Byw
Mae prisiau ein rhaglen berfformiadau yn amrywio o gynhyrchiad i gynhyrchiad. Rydyn ni’n cynnig nifer o ddigwyddiadau ar sail talu beth allwch chi. Yn hytrach na dibynnu ar bris penodol, mae hyn yn cynnig tocynnau ar raddfa am yr hyn allwch chi ei fforddio. Does dim prawf modd, a dydyn ni ddim yn gofyn cwestiynau; caiff y system ei gweithredu ar sail gonestrwydd. Dyma ffordd fach o wneud perfformiadau o ansawdd uchel yn fwy hygyrch, a sicrhau bod artistiaid yn cael eu cefnogi i wneud gwaith yma.
Mae ffi trafodion o £1 i bob tocyn.
Oriel
Mae mynediad i'r oriel am ddim. Does dim angen archebu.
Mae ffi trafodiad o £1 I bob tocyn, a bydd ffi gyfnewid o £1.50 os bydd cwsmer am newid eu tocyn.
Ydy hyn yn golygu y bydda i’n gorfod talu £1 ychwanegol am bob tocyn?
Nac ydy, dim ond fesul trafodiad byddwch chi’n talu’r ffi yma, felly os ydych chi’n prynu un tocyn neu ddeg tocyn ar unwaith, bydd y Ffi Trafodiad o £1 yr un fath.
Beth os bydda i’n archebu wyneb yn wyneb neu ar y ffôn?
Waeth sut neu ble rydych chi’n archebu eich tocynnau, bydd y Ffi Trafodiad yr un fath, gan ein bod ni’n defnyddio’r un systemau.
Beth am docynnau am ddim? Oes ffi trafodiad arnyn nhw?
Ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn codi ffi trafodiad ar docynnau am ddim fel ein Ffilmiau am Ddim i’r Teulu neu ddigwyddiadau am ddim eraill.
Sut alla i glywed am eich ffilmiau/perfformiadau yn y dyfodol?
Y ffordd orau o weld ein holl restrau yw ar ein Digwyddiadau neu drwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio i gael ein canllaw ffilm bob pythefnos.
Pam mae hyn yn cael ei gyflwyno nawr?
Mae cost gynyddol cyfleustodau a gwasanaethau yn golygu bod ein prisiau presennol yn anghynaladwy, ac rydyn ni wedi cyflwyno’r ffi fach yma er mwyn sicrhau bod modd i ni barhau i gyflwyno’r ffilmiau, perfformiadau, arddangosfeydd celf a digwyddiadau gorau, o Gymru, Prydain ac yn rhyngwladol.
Oes ffordd o osgoi’r ffioedd?
Cofrestrwch ar gyfer Cerdyn Ffrindiau Chapter i gael ystod eang o fanteision, sy’n cynnwys osgoi’r Ffioedd Trafodiad a Chyfnewid. Gwnewch i bethau gwych ddigwydd yn Chapter, a phrofwch fanteision arbennig ar yr un pryd.
Rwy’n defnyddio cadair olwyn, sut galla i archebu sedd hygyrch?
Mae gan bob digwyddiad yn ein Sinemâu a’n Theatrau opsiwn sedd hygyrch. Dewiswch Sedd Hygyrch ar y cam Dewis Tocynnau, ac yna dewiswch eich sedd. Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y gwasanaeth gorau, cofrestrwch i gael Cyfrif Chapter am ddim, ac yn yr adran Manylion, dewiswch ‘Rwy’n defnyddio cadair olwyn'.
Mae gen i gerdyn Hynt/CEA, sut galla i archebu tocyn i fi a chydymaith/gofalwr?
Rydyn ni’n cynnig tocynnau am ddim i gymdeithion/gofalwyr. Ar y sgrin Dewis Tocynnau, dewiswch un tocyn Cerdyn Hynt, ac un cydymaith/gofalwr. Bydd y gostyngiad yn cael ei roi yn awtomatig ar y cam talu.
Sut galla i gael gwybod os bydd Dangosiad Sinema yn cynnwys Disgrifiadau Sain / Isdeitlau Meddal / Capsiynau / Dangosiad Ymlaciol / Dehongliad Iaith Arwyddion Prydain?
Gallwch chwilio am ddigwyddiadau ar sail hygyrchedd yn y tab Digwyddiadau Hygyrch ar ein Digwyddiadau, edrychwch am y tagiau AD, ST, BSL a mwy yn y digwyddiad, gan y bydd rhain weithiau’n newid yn nes at y digwyddiad.
Rydw i wedi newid fy meddwl, alla i gyfnewid fy nhocyn?
Mae ffi gyfnewid o £1.50 i bob tocyn. Os hoffech gyfnewid eich tocyn, anfonwch e-bost at ticketing@chapter.org, ffoniwch ni ar 02920 311 050 neu galwch heibio i siarad gyda Thîm Blaen y Tŷ yn y Dderbynfa.
Alla i ddim dod i ddigwyddiad erbyn hyn, alla i gael ad-daliad?
Oni bai bod trefnydd y digwyddiad, sef Chapter neu un o’r sefydliadau eraill rydyn ni’n gweithio gyda nhw, yn gwneud newid i’r rhestriad gwreiddiol, does dim modd i ni gynnig ad-daliad am docynnau sydd wedi’u gwerthu. Gweler ein Polisi Ad-daliadau i gael yr holl wybodaeth.
Alla i ddim ffeindio fy nhocynnau!
Peidiwch â phoeni, os ydych chi wedi archebu gan ddefnyddio Cyfrif Chapter, mae eich holl e-docynnau o dan E-docynnau yn y dudalen Fy Nghyfrif. Os archeboch chi fel gwestai (hynny yw heb greu cyfrif), anfonwch e-bost at ticketing@chapter.org, ffoniwch ni ar 02920 311 050 neu siaradwch â Thîm Blaen y Tŷ yn y Dderbynfa. Byddan nhw’n gofyn am eich enw, eich e-bost, a pha ddigwyddiad hoffech ei weld.
Hoffwn lunio adolygiad neu broffil ar gyfer digwyddiad yn Chapter i gylchgrawn / blog / cyfnodolyn / papur newydd.
Rydyn ni’n cynnig tocynnau am ddim ar gyfer y wasg mewn arddangosiadau, ffilmiau, perfformiadau a digwyddiadau penodol. Ewch i Adran y Wasg i gael rhagor o wybodaeth, neu cysylltwch â’r Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu.
Pori’r rhaglen, prynu tocynnau a chynllunio eich dydd gyda ni.
Gweld beth sydd ymlaen-
-
Ymweliadau grŵp a Theithiau
Ydych chi’n ysgol, yn brifysgol, neu’n sefydliad addysgol arall sy’n gobeithio ymweld â ni gyda grŵp o 10 neu fwy? Edrychwch sut gallwn ni gefnogi eich ymweliad.
-
-
Talebau Anrheg
Pa rodd gwell na pherfformiadau radical, ffilmiau indi, dramâu newydd a tymhorau ffilm.