Ymweliad
Helo! Ein cyfeiriad yw: Canolfan Gelfyddydau Chapter, Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd, CF5 1QE.
Ar agor 7 diwrnod yr wythnos.
- Dydd Llun 8.30am-10pm
- Dydd Mawrth 8.30am-10pm
- Dydd Mercher 8.30am-10pm
- Dydd Iau 8.30am-10pm
- Dydd Gwener 8.30-11am
- Dydd Sadwrn 8.30-11am
- Dydd Sul 8.30am-10pm
Mae’r Ddesg Wybodaeth ar agor 8.30am-9pm.
CERDDED
Rydyn ni yng ngorllewin Caerdydd, tua 25 munud ar droed o ganol Caerdydd, 15 munud o Stadiwm Dinas Caerdydd, a 10 munud o Gaeau Llandaf. Gallwch ddod o hyd i ni ar Google Maps, Apple Maps, neu ar unrhyw fap da o Gaerdydd.
BWS
Gallwch ddal bysiau rhif 17, 18, 13 neu C1 yn uniongyrchol o ganol y ddinas (i arhosfan Canolfan Gelfyddydau Chapter).
Dewch o hyd i’r daith fws gyflymaf i Ganolfan Gelfyddydau Chapter drwy Bws Caerdydd.
BEIC
Mae ganddon ni orsaf feiciau dan do o flaen ein prif fynedfa.
TRÊN
Yr orsaf drenau agosaf i ni yw Parc Ninian (NNP) ac mae cysylltiadau bws aml o Gaerdydd Canolog (CDF).
CAR
Er hwylustod, mae ganddon ni faes parcio am ddim y tu ôl i'r adeilad gyda chwech lle dynodedig i ddeiliaid Bathodyn Glas. Mae tri lle Bathodyn Glas arall yn ein maes parcio blaen.
Mae ein maes parcio cyhoeddus yn gallu bod yn brysur iawn, ond mae sawl opsiwn arall yn agos sy’n cael eu gweithredu gan Gyngor Caerdydd, a rhwng 8am a 6pm maen nhw am ddim am hyd at ddwy awr. Wedi hynny, mae ffi safonol o £3 y diwrnod. Gallwch barcio am ddim rhwng 6pm ac 8am, a drwy'r dydd ar ddydd Sul.
Mae manylion pob Maes Parcio sy’n agos i Ganolfan Gelfyddydau Chapter drwy Gyngor Caerdydd.
TACSI
Mae llawer o gwmnïau tacsi yn gwasanaethu Caerdydd, gan gynnwys:
- Dragon Taxis: 02920 333 333
- Premier Taxis: 02920 555 555
- Capital Cabs: 02920 777 777
yn ogystal ag Uber ac Ola.
Rydyn ni’n ymroddedig i wneud ein lleoliad yn hygyrch i bawb.
Mae parcio am ddim tu ôl i’r adeilad, gyda chwe lle parcio Bathodyn Glas, a thri arall yn y maes parcio blaen. Dylech nodi mai ar gyfer deiliad Bathodynnau Glas yn unig mae’r maes parcio blaen.
Mae gennym fynediad gwastad i flaen a chefn yr adeilad drwy ddrysau awtomatig, a mynediad lifft i'r llawr cyntaf.
Yn ein sinemâu a’n theatrau, rydyn ni’n darparu sedd am ddim i gydymaith ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, pobl ag anghenion ychwanegol, a phobl sydd â chŵn cymorth. Yn ein sinemâu a’n theatrau, yn ogystal â’n caffi bar a’n gofodau llogi, mae Systemau Cymorth Clyw wedi’u gosod.
Gallwch ddysgu mwy am hygyrchedd ledled ein safle drwy wrando ar ein taith disgrifiadau sain yma. Gallwch hefyd wylio ein fideo yma i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad.
-
Sinema
Dewch i ddarganfod eich hoff ffilm newydd neu ailddarganfod hen glasur, a phrofi sinema gwbl unigryw.
Cymerwch gip ar y digwyddiadur ffilmiau. -
-
Theatr
O artistiaid lleol sy’n dechrau arni i gynyrchiadau teithiol rhyngwladol, o gabare comedi i waith newydd.
Cymerwch gip ar y digwyddiadur perfformiadau. -
-
-
Amdanom
Sefydlwyd ni gan artistiaid ym 1971, ac rydyn ni’n ganolfan ryngwladol ar gyfer y celfyddydau cyfoes a diwylliant.
-
Cod Ymddygiad
Tra byddwch yma, rydyn ni am i chi deimlo’n ddiogel, wedi’ch parchu, a bod modd i chi fwynhau eich profiad gyda ni.
-
-
- Ystafelloedd Cyffredinol
Stiwdio Dawns
Darganfyddwch fwy
-
- Ystafelloedd Cyffredinol
Cwtch
Darganfyddwch fwy
-
- Ystafelloedd Cyffredinol
Cyntedd Sinema
Darganfyddwch fwy
-
- Theatrau
Theatr Seligman
Darganfyddwch fwy
-
- Theatrau
Stiwdio Seligman
Darganfyddwch fwy
-
- Ystafelloedd Cyffredinol
Ystafell SWAS
Darganfyddwch fwy
-
- Ystafelloedd Cyffredinol
Ystafell Gyffredin
Darganfyddwch fwy
-
- Ystafelloedd Cyffredinol
Pwynt Cyfryngau
Darganfyddwch fwy
-
- Ystafelloedd Cyffredinol
Gofod Cyntaf
Darganfyddwch fwy
-
- Sinema
Sinema Un
Darganfyddwch fwy
-
- Sinema
Sinema Dau
Darganfyddwch fwy