Workshops
Wales Burlesque Festival: Strip Pop with Cleopantha
- 1h 30m
Nodweddion
- Hyd 1h 30m
- Math Workshops
Gweithdy striptease gyda cherddoriaeth bop y 00au a heddiw gyda Cleopantha!
Byddwch yn barod i dwyrcio i rai o ganeuon Beyonce, mynd trwy’ch pethau i rai Britney, a throwch y sain i fyny gyda chaneuon JLO. Rydyn ni ar fin mynd â striptease yn ôl i'r 00au gydag ambell alaw bop gyfredol yn gymysg er hwyl! Dysgwch fwrlésg gyda Ffigwr Bwrlésg Mwyaf Dylanwadol y DU yn 2023.
Mae'r gweithdy hwn ar gyfer pob lefel.
Dewch â photel o ddŵr (mae’n bwysig yfed digon o ddŵr!)
Dewch â dillad lliwgar cyfforddus (os dymunwch) sy'n anadlu ac yn hawdd symud ynddyn nhw.
Dewch â threnyrs i gynhesu. Mae sodlau dawns yn dderbyniol ar gyfer y rwtîn arferol. Ni chaniateir sodlau polyn na sodlau uchel. Dim sanau na theits yn lle esgidiau, er mwyn sicrhau diogelwch myfyrwyr yn fy ngweithdy. Mae mynd yn droednoeth hefyd yn dderbyniol.