Workshops

Wales Burlesque Festival: Samba with Gillian Seaton

  • 1h 15m

Nodweddion

  • Hyd 1h 15m
  • Math Workshops

Darganfyddwch eich “Passista” mewnol yn y cyflwyniad awr o hyd hwn i Samba no pé (Samba ar y traed) Brasil. Yn tarddu o favelas Brasil, mae'n darlunio treftadaeth unigryw pobl Brasil gan ymgorffori symudiadau Gorllewin Affrica. Dysgwch i baredio, ystumio, ac ymgorffori symudiadau sylfaenol fel rebolada (greindio a rholiau), cerddediad samba a floreios (troeon). Gwisgwch ddillad cyfforddus a dewch â phâr o sodlau isel.

Mae'r math hwn o samba yn cael ei ddawnsio'n unigol, yn aml yn fyrfyfyr ac fe’i cysylltir fwyaf â charnifal Brasil.

Mae Gillian wedi hyfforddi fel dawnsiwr Samba ers 8 mlynedd, gan astudio gydag Alex Coutinho a Jorge Amarelloh o ysgol Paraiso do Tuiuti Samba yn Rio de Janeiro. Mae hi'n perfformio'n rheolaidd gyda'r Rebolado Showgirls ac yn llawrydd yn y DU

Share