Performance
Volleyball
- 1h 0m
Nodweddion
- Hyd 1h 0m
Mae Volleyball yn creu cerddoriaeth seicedelig sy’n gorwedd mewn niwl breuddwydiol rhwng y bachog a’r archwiliadol, lle mae rhythmau gwthiol yn torri ar draws alawon nefolaidd. Mae’r archwiliad sonig byw yma’n gwehyddu llinell rhwng cyfansoddiadau gosodedig a jams archwiliadol.
Mae EP ddiweddaraf Volleyball yn llawn gweadau cain a synau ergydiol llawn grŵf. Mae’r band yn awyddus i fwrw ati i ffurfio eu sain, ac maen nhw wrthi’n recordio deunydd newydd. Edrychwch ar eu gwefan i glywed mwy o gerddoriaeth, i bori’r gyfres o nwyddau print llaw wedi’u huwchgylchu, ac i chwarae’r gêm Volleyball ar-lein.
Band seicedelig modern o Lundain yw Volleyball, y mae eu cerddoriaeth yn llithro rhwng seinweddau beiddgar a bachog i’r breuddwydiol, a hynny bob amser gyda thamaid o seicedelia a gwaith cynhyrchu glân.