i

Film

Two Strangers Trying Not To Kill Each Other (15)

15
  • 2024
  • 1h 40m

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Manon Ouimet, Jacob Perlmutter
  • Blwyddyn 2024
  • Hyd 1h 40m
  • Tystysgrif 15
  • Math Film

Mae’r artistiaid priod Joel a Maggie yn eu saithdegau a’u hwythdegau, ac yn rhannu cysylltiad dwys, gyda’u cariad dwfn yn dal i fod yn gadarn. Ond, maen nhw’n dal i wynebu heriau: Mae Joel Meyerowitz yn ffotograffydd byd-enwog ac mae Maggie Barrett yn gerddor ac awdur, ac yn teimlo ei bod yn byw yng nghysgod ei enwogrwydd. Rydyn ni’n cwrdd â nhw wrth iddyn nhw ddod wyneb yn wyneb yn fwy rheolaidd â’u marwoldeb a’r ffordd maen nhw eisiau byw. Mae’r ffilm ddogfen bersonol a dewr yma’n cynnig portread o gwpl sy’n ymdrin â heneiddio a’r broses greadigol, sy’n aml yn ddadlennol ac yn boenus, ond yn llawn cynhesrwydd a gwirioneddau anghyfforddus.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Share