
Film
Twin Peaks: Marathon Tymor Un
- 1990
- 6h 58m
- USA
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan David Lynch
- Tarddiad USA
- Blwyddyn 1990
- Hyd 6h 58m
- Tystysgrif adv15
- Math Film
Ymunwch a ni am farathon tymor 1 o Twin Peaks!
Mewn tre torri coed yng Ngogledd-Orllewin America, mae’r gymuned yn cael ei hysgwyd pan fydd corff marw Laura Palmer yn cael ei ganfod; brenhines ei blwyddyn ysgol, gwirfoddolwraig pryd ar glud, a cheerleader yr oedd ei llun llawen yn eistedd yn falch yn y cwpwrdd tlysau. Buan mae’r asiant FBI anarferol Dale Cooper yn canfod bod trigolion y dre dawel yn llawn cyfrinachau. Mae David Lynch ac awdur Hill Street Blues Mark Frost yn dod ag ensemble gwych o actorion at ei gilydd, sy’n amrywio o arwyr Hollywood fel Russ Tamblyn a Piper Laurie i actorion theatr Seattle a hen gydweithredwyr Lynch, fel Jack Nance a Catherine Coulson.
___
1.1 Pilot: Northwest Passage
UDA | 1990 | 94’ | cynghorir 15 | David Lynch
Mae tre fach Twin Peaks yn Washington yn cael ei hysgwyd pan fydd corff Laura Palmer, brenhines ei blwyddyn ysgol, yn cael ei olchi i lan yr afon, wedi’i rwymo mewn plastig.
1.2 Traces to Nowhere
UDA | 1990 | 46’ | cynghorir 15 | Duwayne Dunham
Mae’r Asiant Cooper yn mwynhau moethusrwydd Gwesty’r Great Northern. Mae Bobby Briggs a Mike Nelson yn cael eu rhyddhau o’r carchar. Mae Doctor Hayward yn cyflwyno adroddiad awtopsi Laura Palmer.
1.3 Zen, or the Skill to Catch a Killer
UDA | 1990 | 47’ | cynghorir 15 | David Lynch
Mae Jerry Horne yn cyrraedd Twin Peaks ac yn teithio gyda’i frawd Ben i One Eyed Jack's ac yn cwrdd â Blackie. Mae Audrey’n gadael cliw i Cooper. Mae Deputy Hawk yn dod o hyd i dywel gwaedlyd ger lleoliad y drosedd.
1.4 Rest in Pain
UDA | 1990 | 47’ | cynghorir 15 | Tina Rathborne
Mae Cooper yn dweud wrth Truman na all gofio pwy oedd y llofrudd yn ei freuddwyd, ond mae’n mynnu mai côd oedd y freuddwyd i ddatrys y drosedd.
1.5 The One-Armed Man
UDA | 1990 | 47’ | cynghorir 15 | Tim Hunter
Mae Cooper yn cwestiynu Dr Jacoby, sy'n amau mai Leo Johnson yw'r llofrudd. Mae Gordon Cole yn galw i mewn gydag adroddiad Albert. Mae Josie Packard yn ysbïo ar Ben a Catherine. Mae Hawk yn dilyn y One-Armed Man.
1.6 Cooper's Dreams
UDA | 1990 | 47’ | cynghorir 15 | Lesli Linker Glatter
Mae Cooper a chwmni yn cael te gyda'r Log Lady. Yng nghaban Jacques Renault mae Cooper, Hawk, a Truman yn dod o hyd i Waldo.
1.7 Realisation Time
UDA | 1990 | 46’ | cynghorir 15 | Caleb Deschanel
Mae Audrey’n dechrau gweithio wrth y cownter persawr ac yn darganfod cliw annifyr. Mae James, Donna a Maddy yn cynllunio i ddenu Jacoby oddi wrth ei swyddfa.
1.8 The Last Egg
UDA | 1990 | 46’ | cynghorir 15 | Mark Frost
Mae Audrey’n cael ei chyflogi yn One Eyed Jack's. Mae Deputy Andy’n achub bywyd Truman ac yn arestio Jacques Renault.
More at Chapter
-
- Film
Episode 2.3 and 2.4 Twin Peaks
2.3 The Man Behind the Glass 2.4 Laura's Secret Diary
-
- Film
Episode 2.5 and 2.6 Twin Peaks
2.5 The Orchid's Curse 2.6 Demons
-
- Film
Episode 2.7 and 2.8 Twin Peaks
2.7 Lonely Souls 2.8 Drive with a Dead Girl
-
- Film
Episode 2.9 and 2.10 Twin Peaks
2.9 Arbitrary Law 2.10 Dispute Between Brothers