Events

BAFTA CIPOLWG TELEDU A HOLI AC ATEB: LOST BOYS & FAIRIES

Nodweddion

Mae’r ddrama Lost Boys & Fairies sydd i ddod i’r BBC yn adrodd stori dyner a disglair y canwr a’r artist amryddawn Gabriel, ei bartner Andy, a’u taith fabwysiadu.

Ymunwch a ni mewn rhag-ddangosiad o bennod gyntaf y gyfres gyda sesiwn holi ac ateb gan y crëwr/awdur Daf James, yr actorion Sion Daniel Young a Fra Fee, a Rebekah Wray-Rogers, y cynhyrchydd gweithredol o Duck Soup Films. Ffion Dafis fydd yn arwain y sesiwn.

Gwahoddir aelodau i dderbyniad diodydd yn Chapter ar ôl y sesiwn Holi ac Ateb.

Crëwyd ac ysgrifennwyd gan Daf James, cyfarwyddwyd gan James Kent a chynhyrchwyd gan Duck Soup Films ar gyfer BBC One, BBC Cymru Wales a BBC iPlayer, gyda chefnogaeth Cymru Greadigol.

Share