Film

CIPOLWG TELEDU A HOLI AC ATEB: DOCTOR WHO

Nodweddion

Mae Ruby’n dysgu cyfrinachau’r Doctor pan mae e’n mynd â hi i ddyfodol lle mae babanod a’r Bogeyman.

Ymunwch â ni i wylio pennod gyntaf ‘Space Babies’ o gyfres newydd Doctor Who cyn iddi gael ei darlledu ar 11 Mai, gyda sesiwn holi ac ateb i ddilyn i drafod creu’r gyfres.

Siardwyr:

Joel Collins (uwch gynhyrchydd)

Pam Downe (cynllunydd gwisgoedd)

Phil Sims (cynllunydd cynhyrchu)

Vicki Delow (cynhyrchydd cyfres)

Sgwrs dan ofal - Steffan Powell



Cynhyrchir Doctor Who gan Bad Wolf gyda BBC Studios ar gyfer y BBC a Disney.

Mae’r digwyddiad hwn mewn cydweithrediad â BBC Cymru Wales.

Os hoffech ddod i’r digwyddiad hwn gyda rhywun o dan 18 oed, anfonwch e-bost at cymru@bafta.org cyn y digwyddiad. Ar gyfer unigolion o dan 18 oed, bydd angen i’r rhiant neu warcheidwad gadarnhau wrth BAFTA eu bod yn fodlon i’r unigolyn ddod i’r digwyddiad a llofnodi ffurflen ganiatâd. Ni fydd modd i ni dderbyn neb o dan 18 oed i’n digwyddiad heb ffurflen ganiatâd wedi’i llofnodi gan riant neu warcheidwad.

Share