Film

Turin Horse (15)

  • 2h 26m

Nodweddion

  • Hyd 2h 26m
  • Math Film

Hwngari | 2011 | 146’ | 15 | Béla Tarr, Ágnes Hranitzky | Hwngareg ac Almaeneg gydag isdeitlau Saesneg | János Derzsi, Erika Bók

Yn Turin ym 1889 cafodd yr athronydd o’r Almaen, Friedrich Nietzsche, chwalfa feddyliol, a bu’n ddistaw ei ffordd am weddill ei fywyd. Mae manylion y digwyddiad wedi mynd ar goll dros amser, ond y stori ar led oedd mai cwympo wrth redeg i amddiffyn ceffyl rhag cael ei chwipio wnaeth Nietzsche. Yn ei ffilm olaf, mae Béla Tarr yn troi ei sylw at y creadur truenus a’i berchennog. Mae’r ffilm yn archwilio bodolaeth llafurus yr hen ŵr sy’n byw ar fferm anghysbell ar wastatir Hwngari; mae’n llafurio i gael dŵr a bwyd i’w geffyl ac iddo’i hunan, ac yn cael ymweliadau gan deithwyr sy’n cael eu gyrru gan y gwynt ffyrnig parhaus i geisio noddfa ac i siarad ag e. Mae’r ffilm drochol a diddorol yma, a gafodd ei gwahardd gan y Prif Weinidog Viktor Orbán, yn cynnig sylwebaeth ar ddifaterwch y bydysawd am bobl ddynol, ac yn uchafbwynt i gloi gyrfa’r gwneuthurwr ffilm gweledigaethol.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Share