Film

Touch (15)

  • 2h 1m

Nodweddion

  • Hyd 2h 1m
  • Math Film

Gwlad yr Iâ | 2023 | 121’ | 15 | Baltasar Kormákur | Islandeg, Japaneeg a Saesneg gydag isdeitlau | Egill Ólafsson, Kôki, Palmi Kormákur

Mae Kristofer yn byw ar ei ben ei hunan yng Ngwlad yr Iâ ar ôl marwolaeth ei wraig. Mae ei ddyddiau’n ddiffaith gydag ambell ymweliad gan ei ferch. Wrth edrych yn ôl ar ei fywyd, mae’n penderfynu asesu ei orffennol, sy’n ei arwain ar daith nodedig i Lundain a Japan i geisio canfod cariad coll. Gyda dwy linell amser yn newid bob yn ail, gwelwn Kristofer ifanc yn cwrdd â Miko, a’r hen ddyn yn wynebu taith frawychus mewn ymgais ramantus a swynol i ganfod cariad cyn i amser fynd yn drech.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Share