Performance

Tom Marshman: Section 28 and Me

  • 1h 0m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 0m
  • Math Plays/Drama

Mae Section 28 and Me yn bortread chwareus, gonest a thwymgalon, sy’n archwilio straeon cwiar am anweledigrwydd a chywilydd y gorffennol.

Roedd Adran 28 yn weithredol rhwng 1988 a 2003, a dyna oedd y ddeddfwriaeth a oedd yn gwahardd awdurdodau lleol ac ysgolion rhag ‘hyrwyddo cyfunrywioldeb’.  Nid oedd hawl gan athrawon addysgu na siarad am berthnasau un rhyw; gallai unrhyw un fyddai’n torri’r gyfraith wynebu camau disgyblu.

Yn y sioe newydd yma, mae’r gwneuthurwr theatr Tom Marshman yn gofyn: a yw effaith tyfu i fyny yng nghyfnod deddfwriaeth Adran 28 wedi ei droi’n unigolyn sy’n dangos ei hunan ac sy’n rhannu gormod? Gan gloddio’n ddwfn i’w seice, a gan ddefnyddio myfyrdodau personol, perfformiadau’r gorffennol, a safbwynt unigryw ei dad, mae’n ystyried y cyfnod yma o dawelwch gorfodol.

Gofynnodd Tom i lawer o gymunedau cwiar: beth yw eich stori Adran 28 chi? Mae’n casglu lleisiau o sawl cenhedlaeth, ac yn cysylltu hanes a gwleidyddiaeth gyda’r hynod bersonol, i ddathlu’r gymuned LHDTCRhA+ wydn ac unigryw.

Te Parti Section 28 and Me

Dydd Sadwrn 29 Mehefin

2-4PM

Talu beth allwch chi: £0, £3, £5, £8

Mewn partneriaeth â Chapter, bydd Tom yn cynnal te parti i drafod effaith Adran 28 ar y gymuned gwiar, gan ddod â hanesion anghofiedig yn weladwy a’u cysylltu â materion dybryd y presennol.

Mae mwy o wybodaeth a thocynnau ar gael yma

What was the impact of growing up under Section 28? Does it explain why Tom Marshman is an extreme show off and an over-sharer? This is a heartfelt show exploring stories and reflections on past invisibility and shame.

Share