i

Performance

Trothwy: (Un)naturally

  • 2h 0m

£5 - £12

Nodweddion

  • Hyd 2h 0m

Trothwy yw enw’r noson fisol newydd o berfformio yn Chapter, sydd wedi’i churadu gan artist lleol, ac sy’n gwahodd artistiaid lleol i gyfrannu perfformiadau newydd/amrwd/anorffenedig mewn ysbryd o chwarae, archwilio a chyfnewid. Mae Trothwy yn bwynt mynediad, yn fan cyfarfod, ac yn ffin rhwng arferion/safbwyntiau rydyn ni’n gwahodd artistiaid i’w chroesi.

Mewn seinweddau arbrofol, mae bregusrwydd cynhenid y ‘naturiol’ yn cwrdd â thro’r ‘annaturiol’. Dyma’r thema y bydd artistiaid cysylltiedig Pasta Now – wedi’u curadu gan Rosey Morwenna, Rowan Campbell a Pam Rose Cott – yn ei harchwilio ar gyfer ail rifyn Trothwy.

Bydd pedwar artist ac ensemble o Gymru yn defnyddio’r noson i brofi dulliau, cydweithio a chroestorri.

Naturiol: llais, anadl, recordydd tâp, cân yr adar, côr y wawr, coed, mwmian y pryfed, afon, drws yn gwichian, sŵn traed drwy fwd, clepian, crafu, cardfwrdd yn chwalu, corau, ffliwtiau, liwtiau, sielo, chwerthin.

Annaturiol: sindonnau addasedig, wedi’u golygu, eu hystumio, a’u cywasgu, ailadroddus, estynedig, wedi trawsnewid neu yn trawsnewid, yr artiffisial, y nefol, yr anfarwol, robotaidd, môr-forynion a gwrachod, sgrechiadau sampl.

Mae croeso i bawb: ymunwch â ni ac arhoswch wedyn i edrych ar y byrddau pedal a chwrdd â’r artistiaid.

___

Ynglŷn â'r artistiaid

Dechreuodd Pasta Now fel grŵp gwrando ar gerddoriaeth arbrofol, a ysbrydolwyd gan lyfr Fanny Chiarello, Basta Now: Women, Trans and Non-binary in Experimental Music (gyda thamaid o basta ychwanegol wrth gwrs). Mae’r grŵp wedi cael ei greu i fod yn lle cefnogol ac anffurfiol i fenywod, pobl draws a phobl anneuaidd ddod at ei gilydd a gwrando ar y catalog helaeth o gerddoriaeth arbrofol a grëwyd gan artistiaid benywaidd, traws ac anneuaidd sy’n aml yn cael eu gwthio i’r ochr neu eu diystyru.

Gyda’r dydd, mae Rowan Campbell yn ymgyrchydd a threfnydd, a gyda’r nos, mae’n mwynhau celf DIY a cherddoriaeth ryfedd. Weithiau mae’r bydoedd yma’n gwrthdaro ar ffurf gweithdai creu cylchgronau neu’r digwyddiadau grŵp gwrando Pasta Now, sydd â’r nod o feithrin lle cynhwysol i ryweddau ar yr ymylon i archwilio a mwynhau cerddoriaeth arbrofol.

Mae gan Rosey Morwenna ddiddordeb ym mhob ffurf ar fynediad i gerddoriaeth; ar hyn o bryd mae’n rhedeg cynllun Bwthyn Sonig Tŷ Cerdd, gan greu llwybrau datblygu i gerddorion ag anableddau dysgu, ac yn gweithio ym Mryste yn cynnal cronfa gerddoriaeth lawr gwlad. Mae hi hefyd yn gweithio fel dylunydd sain achlysurol ar gyfer dawns, theatr ac animeiddio.

Artist perfformio a lleisydd yw Pam Rose Cott, sy’n cyfuno sain arbrofol, ysgrifennu a pherfformio. Mae’n rhan o Pasta Now, y gasgleb o fenywod a phobl draws ac anneuaidd sy’n edrych yn ddwfn ar sain arbrofol. Mae hi hefyd yn gweithio gyda thecstilau, brodwaith a gwehyddu, a’u harwyddocâd hanesyddol fel ffurf fatrilinachol ar gelfyddyd.

Share

Times & Tickets