Nodweddion
- Hyd 2h 0m
- Math Music
Yn chwareus ac yn hudolus ar yr un pryd, mae perfformiadau cydweithredol Theo Alexander a Qow yn cyfuno nodau llais di-eiriau, offerynnau rhannol-glasurol, gair llafar, ac awyrgylch lŵp. Cyn eu halbwm ddiweddaraf ac yn syth wedi’u perfformiad cyntaf ym mis Ionawr yng Ngŵyl CTM ym Merlin, mae Alexander a Qow yn dychwelyd fel deuawd ar gyfer eu sioe gyntaf yng ngwledydd Prydain, gan gyflwyno archif o ddeunydd wedi’i drawsnewid, wedi’i lunio o dros flwyddyn o gydweithio.
Mae eu sain bricolage unigryw wedi’i adeiladu drwy rwydwaith o gydweithwyr pellach, gan gynnwys y bardd a’r rapiwr o’r Aifft, Otteswed, y fyrfyfyrwraig sefydledig Klara Pudlakova, a George Cremaschi – cyn gydweithwyr â Cecil Taylor ac Anthony Braxton.
Amdan yr artist...
Mae Theo Alexander (Llundain, Lloegr) a Qow (Cairo, yr Aifft) wedi ymddangos yn flaenorol yn NPR, The Quietus a’r Wire, ac wedi’u cefnogi gan Shape+, Britten-Pears Arts, ac eraill. Mae eu cerddoriaeth flaenorol wedi’i rhyddhau gan Irsh, Arts & Crafts, Genot Centre, Blank Editions, a mwy.
Times & Tickets
-
Dydd Gwener 14 Chwefror 2025