Hosted at Chapter
The Wales Academy of Voice and Dramatic Arts Students: Fugitive Songs
- 1h 0m
Nodweddion
- Hyd 1h 0m
Myfyrywr Academy Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru yn Cyflwyno: Fugitive Songs.
Mae Fugitive Songs Chris Miller a Nathan Tysen yn daith 19 cân ar draws America, gydag ensemble amlethnig (3 dyn, 3 menyw) rhwng 20 a 40 oed. Mae'r cylch caneuon arloesol hwn, a luniwyd yn hanner sioe gerdd / hanner noson werin, yn tynnu sylw at bobl ar ffo: gweithiwr brechdanau anniddig yn Subway, cyn-godwraig hwyl sydd wedi’i siomi, pâr o selogion Patty Hearst, rhywun ar gyffuriau a orfodir i ddwyn o siop gornel yn erbyn ei ewyllys, a llawer o rai eraill.
Gan gyfuno cerddoriaeth werin draddodiadol â phop a chanu gospel cyfoes, mae Fugitive Songs yn cynnig sain newydd i America aflonydd. Mae'r sgôr eclectig hon yn cynnig deunydd eithriadol i ystod eang o gantorion profiadol, ac yn cyflwyno geiriau teimladwy a phryfoclyd sy'n crisialu’r "rhesymau i redeg" sydd gan bob cymeriad.
Cyfarwyddwr - Matthew Holmquist
Cyfarwyddwr Cerddoriaeth - Barnaby Southgate
Dylunydd - Eve Wilson
Rheolwr Cynhyrchu - Nick Allsop
Rheolwr Llwyfan - Emma Gonzales
Goleuo - Cara Hood
Sain - Simon Kilshaw