Performance

The Three Apothecaries: Medicines, music, and memories

  • 1h 30m

Nodweddion

  • Hyd 1h 30m

Gwenwyn neu Iachâd? Golwg ddilys ond ysgafn ar y byd meddyginiaethau a gofal iechyd yng ngwledydd Prydain.

Rydyn ni’n gwahodd cleifion ac aelodau’r cyhoedd i ymuno mewn sgwrs gyda’r Three Apothecaries mewn noson o hwyl, chwerthin a dagrau, wrth i ni daflu goleuni ar y berthynas rhwng pobl a’u meddyginiaethau.

Mae’n waith caled bod yn glaf. Mae baich triniaeth yn golygu bod yn rhaid i ni gyd fod yn rheolwyr prosiect wrth i ni geisio llywio’r system gofal iechyd. Er mwyn defnyddio meddyginiaeth yn effeithiol, yn aml mae cyd-destun bywyd bob dydd pobl yn fwy pwysig na rhagnodi’r feddyginiaeth gywir ac egluro sut i’w chymryd yn unig.

Rhagnodi meddyginiaeth yw’r ymyriad mwyaf cyffredin rydyn ni’n ei wneud ym myd gofal iechyd. Rydyn ni’n gwybod bod cred pobl am feddyginiaethau yn cael effaith enfawr ar sut maen nhw’n eu defnyddio yn ymarferol, effaith sy’n aml yn cael ei diystyru.

Dewch i rannu eich straeon am feddyginiaethau, wrth i ni archwilio’r seicoleg o gwmpas ein defnydd o feddyginiaethau, gan gynnwys:

Mae cleifion yn gwneud y pethau rhyfeddaf

Peryglon organolegwyr sengl...

Ydy ein meddyginiaethau yn gweithio?

Dydy claf gwybodus ddim yn golygu claf ufudd.

“Dw i fwy na thebyg wedi gwenwyno mwy o gleifion na’u gwella”

Beth sy'n bwysig i chi?

Criw y Three Apothecaries sy’n cynhyrchu podlediad The Aural Apothecary - sydd wedi’i lawrlwytho mewn dros 75 o wledydd, ac sy’n aml yn cyrraedd deg podlediad meddygol uchaf Apple yn fyd-eang.

Share