Film

The Third Man (PG)

  • 1h 44m

Nodweddion

  • Hyd 1h 44m
  • Math Film

Prydain | 1949 | 104’ | PG | Carol Reed | Orson Welles, Joseph Cotten, Alida Valli, Trevor Howard

Mae Holly Martins, awdur naïf llyfrau pylp cowbois, yn cyrraedd Fiena wedi’r Ail Ryfel Byd er mwyn cwrdd â’i hen ffrind Lime, ond mae’n canfod ei fod wedi cael ei ladd mewn damwain amheus. Mae Martins yn clywed straeon amrywiol am amgylchiadau marwolaeth Lime, ac wrth i dystion ddiflannu, mae e hefyd yn cael ei ddilyn gan ymosodwyr anhysbys. Yn cymhlethu pethau mae’r coeglyd Calloway, Pennaeth y Lluoedd Prydeinig, a’r actores a chariad alarus Lime, Anna Schmidt. A fydd chwilfrydedd Martin yn peri iddo ddysgu pethau newydd am ei hen ffrind y byddai’n well ganddo beidio eu gwybod?

Gyda sgript anhygoel gan Graham Greene a sgôr zither atgofus gan Anton Karas, mae’r ffilm noir glasurol mawr ei chlod yma, a gyfarwyddwyd gan Carol Reed, yn cael ei dyrchafu drwy waith sinematograffi Robert Krasker, a enillodd Wobr Academi, ac actio Orson Welles yn un o’i rannau sgrin mwyaf eiconig erioed.

Share