Film
The Texas Chainsaw Massacre (18)
- 1h 27m
Nodweddion
- Hyd 1h 27m
- Math Film
UDA | 1974 | 87’ | 18 | Tobe Hooper | Marilyn Burns, Gunnar Hansen
Mae pum ffrind yn mynd i gefn gwlad Texas i ymweld â bedd un o’u teidiau. Ar y ffordd, maen nhw’n dod ar draws tŷ gwag yn ôl ei olwg, ond maen nhw’n darganfod rhywbeth sinistr tu mewn iddo... rhywbeth sydd â llif gadwyn.
Yn waedlyd, yn ddychrynllyd, ac yn un o’r ffilmiau mwyaf dylanwadol erioed, ymunwch â ni mewn dathliad o’r ffilm arswyd berffaith ar ei phen-blwydd yn 50, wedi’i hadfer i 4K am y tro cyntaf erioed yn sinemâu Prydain.
More at Chapter
-
- Film
Bad Film Club
-
- Film
BFI LFF 2024: The Wild Robot (U)
-
- Film
Conclave (12A)
Gan y cyfarwyddwr Edward Berger (All Quiet on the Western Front), mae CONCLAVE yn dilyn un o ddigwyddiadau mwyaf cyfrinachol a hynafol y byd – dewis Pab newydd. Mae Cardinal Lawrence (Ralph Fiennes) yn gyfrifol am redeg y broses gudd yma ar ôl marwolaeth annisgwyl y Pab annwyl. Pan fydd arweinwyr mwyaf pwerus yr Eglwys Gatholig yn cynnull o bob rhan o’r byd ac wedi’u cloi gyda’i gilydd yn neuaddau’r Fatican, mae Lawrence yn sylwi ei fod yng nghanol cynllwyn ac yn darganfod cyfrinach a allai ysgwyd sylfeini’r Eglwys.
-
- Film
Queer (18)
Mae Lee’n edrych ’nôl ar ei fywyd yn Ninas Mecsico ymhlith myfyrwyr coleg Americanaidd a pherchnogion bar, gan oroesi ar swyddi rhan amser a budd-daliadau’r GI Bill. Mae’n mynd ar drywydd dyn ifanc o’r enw Allerton, sy’n seiliedig ar Adelbert Lewis Marker.