
Film
The People's Joker (15)
- 2022
- 1h 32m
- USA
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan Vera Drew
- Tarddiad USA
- Blwyddyn 2022
- Hyd 1h 32m
- Tystysgrif 15
- Math Film
Mae digrifwr sydd ar ochr anghywir y gyfraith yn profi heriau â’i hunaniaeth rhywedd yn ffurfio criw gwrth-gomedi newydd, ac yn brwydro gyda chroesgadwr ffasgaidd mewn clogyn. Mae’r ffilm barodi DIY chwyldroadol yma yn ail-gread doniol o’r stori ddod-i-oed hunangofiannol glasurol. Mae’n dilyn merch draws ddihyder sydd heb ddod allan wrth iddi symud i Ddinas Gotham i lwyddo fel digrifwr, gan ymuno â chriw sioe sgets hwyr sydd wedi’i sancsiynu gan y llywodraeth mewn byd lle mae comedi’n anghyfreithlon.
Wrth i lwyddiant prif ffrwd osgoi ein harwres, mae’n ymuno â thîm bob-sut o bobl ar yr ymylon a’i chariad Mister J, mae’n cael egni newydd fel jociwr hyderus (a seicotig) ar daith o wrthdaro gyda chroesgadwr ffasgaidd y ddinas. Mae tybiau o gemegion benyweiddio, darnau cartŵn rhywiol, seiciatryddion bwganaidd, Lorne Michaels mewn CGI, a dysfforia rhywedd seicedelig oll yn rhan o’r ddrama.
Creodd yr awdur / cyfarwyddwr / golygydd / seren Vera Drew y campwaith macsimalaidd yma gan ddefnyddio’i phrofiadau bywyd ei hun, a oedd yn sownd ym myd uffernol hawlfraint tan i’r ffilm gael ei rhyddhau eleni. Ymunwch â ni ar y daith lawen yma, sy’n daith deimladwy bersonol ac yn barodi ddoniol.
More at Chapter
-
- Film
Chapter Moviemaker (adv 18+)
Chapter's monthly showcase of short films and conversations with the filmmakers behind them.
-
- Film
Oh My Goodness! (12A)
Mae grŵp o leianod yn rhoi eu bryd ar ennill ras feicio i achub eu hosbis lleol.
-
- Film
The Short Films of David Lynch (15)
A collection of visionary director David Lynch's short films from the first 29 years of his career is accompanied by a special introduction to each film by the director himself.
-
- Film
Misericordia (15)
Ar ôl dychwelyd i bentre ei blentyndod, mae Jérémie yn creu anesmwythder yn y ffilm gyffro slei a sinistr yma