Film

The King of Comedy

  • 1h 49m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 49m

UDA | 1982 | 109’ | PG | Martin Scorsese

Robert De Niro, Jerry Lewis, Sandra Bernhard 

Mae Rupert Pupkin yn fethiant mewn bywyd, ond yn llwyddiant enwog yn ei feddwl, ac yn cyflwyno rhaglen ddychmygol yn llawr isaf tŷ ei fam. Pan mae’n cwrdd â’r cyflwynydd teledu go iawn Jerry Langford, mae’n sicr mai dyma yw ei gyfle, ond does gan Langford ddim diddordeb yn y darpar ddigrifwr. Heb ei ddigalonni, mae Pupkin yn herwgipio Langford, gan gynnig ei ryddhau yn gyfnewid am slot ar sioe Langford. Yn ysbrydoliaeth glir i’r ffilm fwy diweddar The Joker, mae’r gomedi dywyll ddwys yma, sydd â thri pherfformiad anhygoel (mae Jerry Lewis, sy’n chwarae yn erbyn ei deip, yn ddadlennol; Sandra Bernhard yn ei rhan fawr gyntaf; De Niro yn ei anterth) wedi’u cydbwyso’n ofalus yn yr olwg anesmwyth yma ar enwogrwydd.    

“Mae’n ddoniol iawn...ond eto mor bigog, weithiau’n fanig at ymyl gwallgofrwydd ac, ar y ffordd, yn ddychrynllyd.” 
- Vincent Canby, New York Times 


Dangosiad yn rhan o Cinema Unbound: The Creative Worlds of Powell + Pressburger, tymor o ffilmiau ledled y DU a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol a Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI bfi.org.uk/powell-and-pressburger.

Celf ac Obsesiwn 

Gan gloi gyda’n ffilm olaf o’r tymor, cyflwynwn gyfres o ffilmiau ar gelf ac obsesiwn. Ysbrydolwyd tarddiad stori The Red Shoes gan ddigwyddiad ym mhlentyndod Hans Christian Anderson, lle gwelodd ei dad yn creu esgidiau hyfryd i gwsmer, ond pan gafodd ei sarhau ganddi, fe ddinistriodd nhw. Gyda’r ysbrydoliaeth yma, edrychwn ar obsesiynau eraill ym myd sinema, sy’n mynd â sbarc greadigol i eithafion obsesiynol.  


Share