Film
The Dead Don't Hurt (15)
- 2h 9m
Nodweddion
- Hyd 2h 9m
- Math Film
UDA | 2023 | 129’ | 15 | Viggo Mortensen | Viggo Mortensen, Vicky Krieps
Yng Ngorllewin Gwyllt America yn y 1860au, mae Vivienne, menyw ffyrnig o annibynnol, yn dechrau perthynas gyda ffoadur o Ddenmarc, Holger Olsen, gan gytuno i ddechrau bywyd gydag e mewn tre fach anghysbell yn y gorllewin. Gyda dyfodiad y rhyfel cartref, maen nhw’n cael eu gwahanu pan fydd Olsen yn penderfynu ymladd dros yr Undeb, gan orfodi Vivienne i ofalu amdani hi ei hunan mewn lle sydd wedi’i reoli gan Faer llygredig. Pan fydd Olsen yn dychwelyd o’r rhyfel, maen rhaid iddyn nhw dderbyn y naill a’r llall fel y bobl ydyn nhw nawr. Stori serch gynnil a chwedl am ddial a maddeuant.
“Gwaith syfrdanol gan Vicky Krieps… ffilm sy’n llawn gras, amynedd a chelfyddyd.” - Jason Bailey, The Playlist
More at Chapter
-
- Film
Bad Film Club
-
- Film
BFI LFF 2024: The Wild Robot (U)
-
- Film
Conclave (12A)
Gan y cyfarwyddwr Edward Berger (All Quiet on the Western Front), mae CONCLAVE yn dilyn un o ddigwyddiadau mwyaf cyfrinachol a hynafol y byd – dewis Pab newydd. Mae Cardinal Lawrence (Ralph Fiennes) yn gyfrifol am redeg y broses gudd yma ar ôl marwolaeth annisgwyl y Pab annwyl. Pan fydd arweinwyr mwyaf pwerus yr Eglwys Gatholig yn cynnull o bob rhan o’r byd ac wedi’u cloi gyda’i gilydd yn neuaddau’r Fatican, mae Lawrence yn sylwi ei fod yng nghanol cynllwyn ac yn darganfod cyfrinach a allai ysgwyd sylfeini’r Eglwys.
-
- Film
Queer (18)
Mae Lee’n edrych ’nôl ar ei fywyd yn Ninas Mecsico ymhlith myfyrwyr coleg Americanaidd a pherchnogion bar, gan oroesi ar swyddi rhan amser a budd-daliadau’r GI Bill. Mae’n mynd ar drywydd dyn ifanc o’r enw Allerton, sy’n seiliedig ar Adelbert Lewis Marker.