Film

The Bikeriders (15)

  • 1h 56m

Nodweddion

  • Hyd 1h 56m
  • Math Film

Clwb Ffilm Fyddar

Ymunwch a ni am drafodaeth mewn Iaith Arwyddion Prydain wrth i ni gyflwyno ein digwyddiad Clwb Ffilm Fyddar gyda dangosiad o The Bikeriders ar ddydd Mercher 21 Awst, 5.50pm.


UDA | 2023 | 116’ | 15 | Jeff Nichols | Jodie Comer, Tom Hardy, Austin Butler, Mike Faist

Ar ôl cwrdd drwy siawns, mae Kathy benderfynol yn dechrau perthynas gyda’r enigmatig Benny, sy’n aelod o’r gang beicwyr The Vandals. Mae’n gyfnod gwrthryfelgar yn America; mae’r diwylliant yn newid ac mae’r gang yn newid gydag e, gan drawsnewid o fod yn glwb i bobl leol sydd ar yr ymylon i fod yn isfyd peryglus o drais. Dyma ddrama gyffrous sydd wedi’i hysbrydoli gan astudiaeth ffotograffiaeth o feicwyr yng nghanolbarth orllewin America gan Danny Lyon ym 1967, gyda delweddau cŵl ac eiconig canol y ganrif o’r beic modur yn symbol amlwg ac Americanaidd o ryddid unigol.

Share