Hosted at Chapter

The Arts Society

Nodweddion

Tocynnau: £10/ £5 Myfyrwyr ar y drws (arian parod yn unig)/ Am ddim i aelodau Cymdeithas Y Celfyddydau Caerdydd

Mae Cymdeithas y Celfyddydau Caerdydd yn fudiad cyfeillgar, ffyniannus gydag oddeutu 180 o aelodau o Gaerdydd a’r ardaloedd cyfagos. Mae ein haelodau’n meddu ar amrediad eang o ddiddordebau a rhoddwn groeso i bawb. Byddwn yn cyfarfod am ddau o’r gloch y pnawn ar yr ail ddydd Iau bob mis (ac eithrio misoedd Gorffennaf, Awst a Rhagfyr) yn amgylchedd cyfforddus a bywiog y Ganolfan Gelfyddydau yn Chapter i fwynhau rhaglen amrywiol o ddarlithoedd gan arbenigwyr yn eu maes.

13 Mehefin 2024, 2pm: Gavin Plumley

Bruegel

12 Medi 2024, 2pm: Andrew Prince

Gemwaith a Ffasiwn 1890 i 1929

10 Hydref 2024, 2pm: Dr Meri Arichi

Celfyddydau Estheteg Symlrwydd Zen


14 Tachwedd 2024, 2pm: Sardina Arantxa

Joaquin Sorolla: Meistr y Goleuni

Share