Performance
Taking Flight: Mae Gen Ti Ddreigiau
- 0h 55m
Free
Nodweddion
- Hyd 0h 55m
- Math Children/Family
“Mae dreigiau’n dod yn union pan nad wyt ti’n eu disgwyl. Rwyt ti’n troi rownd, a dyna nhw.”
Mae llawer o bobl yn eu cael: breuddwydion cas, bola’n chwyrlio, teimlo’n bigog. A weithiau maen nhw’n gwneud iti deimlo’n unig. Beth all plentyn sy’n cael pwl cas o ddreigiau ei wneud felly?
Chwedl hyfryd am daith plentyn at ddygymod â’i ddreigiau, a adroddir yn null unigryw Taking Flight. Mae’r cynhyrchiad sensitif, gweledol wych hwn, gyda’i fiwsig byw gwreiddiol, yn archwilio mewn modd doniol a gwefreiddiol y dreigiau a wynebwn ni i gyd.
Sioe i bob cenhedlaeth, yn cynnwys capsiynau creadigol, BSL a disgrifiadau sain wedi’u cydblethu; mae Mae Gen Ti Ddreigiau/You’ve Got Dragons yn brofiad braf i’r teulu i gyd. A chofiwch… “Nid oes draig yn y byd sy’n fwy grymus na TI!”
Canllaw oed: 5+. Croeso i rodyr a chwiorydd iau
55 mun
Gyda diolch i gefnogaeth gan:
Cyngor Celfyddydau Cymru, Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, Gwendoline a Margaret Davies & Tŷ Cerdd
Mae'r perfformiad yn cael ei ddangos yn Gymraeg a Saesneg, edrychwch isod am fanylion:
Dydd Mawrth 16 Gorffennaf: Cymraeg (10yb + 1yp)
Dydd Mercher 17 Gorffennaf: Saesneg (10am + 1pm)
Dydd Iau 18 Gorffennaf: 10yb Saesneg; 1yp Cymraeg
Dydd Sadwrn 20 Gorffennaf: 10yb Cymraeg; 2yp Saesneg
Grandewch i'r Taflen Sain yma: https://soundcloud.com/taking-...
More at Chapter
-
- Performance
Dan Johnson: Gong Bath
Sunday morning gong bath sessions led by Chapter Artist in Residence, Dan Johnson.
-
- Performance
Dan Johnson: Practice
Mae Artist Preswyl Chapter, Dan Johnson, yn perfformio Practice Piece o gwmpas y r adeilad.
-
- Performance
Clark/Heinecke/Wierer: Celebrations at The Funeral of Capitalism
Sut ydyn ni eisiau byw? Mae Dathlu yn Angladd Cyfalafiaeth yn cyfuno celf, theatr, dawns a cherddoriaeth fyw, mewn defod fyfyriol derfynol sy’n troi’n barti ac yn bryd bwyd cymunedol.
-
- Performance
Dan Johnson: Artist talk
Join us for a talk from Artist in Residence, Dan Johnson, on his interdisciplinary practice spanning sound, performance art and education.