Christopher Reeve in Superman standing on the top of a skyscraper pointing to the sky wearing superman costume.

Film

Super / Man: The Christopher Reeve Story (12A)

12A
  • 2024
  • 1h 44m
  • USA

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Ian Bonhôte, Peter Ettedgui
  • Tarddiad USA
  • Blwyddyn 2024
  • Hyd 1h 44m
  • Tystysgrif 12A
  • Math Film

Ar ddiwedd y 1970au aeth Christopher Reeve o fod yn actor anhysbys i fod yn seren ffilm eiconig gyda’i bortread diffiniol o Clark Kent/Superman, gan greu’r sylfaen ar gyfer yr archarwr sy’n dominyddu byd y sinema heddiw. Yn 1995, cafodd ei barlysu mewn damwain a fu bron â’i ladd, a chamodd i’w rôl newydd fel ymgyrchydd dros hawliau anabledd a pharhau â’i yrfa o flaen a thu ôl i’r camera. Dyma bortread annwyl o ddewrder ac arwriaeth, a neges i’n hatgoffa o ddaioni pobl mewn cyfnod anodd.

Edrychwn ar fywyd dewr a da y dyn wnaeth ein darbwyllo y gallai hedfan.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Share