Film

Sugarcane (15)

15
  • 2024
  • 1h 47m
  • Canada

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Julian Brave NoiseCat, Emily Kassie
  • Tarddiad Canada
  • Blwyddyn 2024
  • Hyd 1h 47m
  • Tystysgrif 15
  • Math Film

Yn 2021 darganfuwyd beddau di-enw ar dir ysgol breswyl Indiaidd a oedd yn cael ei rhedeg gan yr Eglwys Gatholig yng Nghanada. Ar ôl blynyddoedd o dawelwch, daeth yr arwahaniad a’r cymathiad gorfodol a’r gamdriniaeth bu llawer o blant yn ei phrofi yn yr ysgolion preswyl gwahanedig yma i’r amlwg, gan danio cynddeiriogrwydd cenedlaethol yn erbyn system sydd wedi’i dylunio i ddinistrio cymunedau Brodorol.

Mae’r ffilm wedi’i gosod yn ystod ymchwiliad arloesol, ac mae Julian Brave NoiseCat ac Emily Kassie yn dogfennu cymuned sy’n torri cylchoedd trawma ar draws cenedlaethau, gan ddod o hyd i’r nerth i oroesi yn ystod cyfnod o adwaith rhyngwladol.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Share