
Film
Streic! Cymru yn Streic y Glowyr (adv 12a) + discussion
- 1984-86
- 1h 37m
- Wales
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan Various
- Tarddiad Wales
- Blwyddyn 1984-86
- Hyd 1h 37m
- Tystysgrif adv 12A
- Math Film
Mae Terry Dimmick, aelod gweithgar o Weithdy Ffilm Chapter a Fideo Chapter, yn cyflwyno cyfres o ffilmiau gyda thrafodaeth ar sut cafodd Cymru a gweddill Prydain eu newid am byth gan Streic y Glowyr a ddaeth i ben ddeugain mlynedd yn ôl. Drwy ymyriadau diwylliannol gan grwpiau creu ffilmiau o Gymru, rhoddwyd llais amgen i’r cymunedau glofaol oedd yn rhan o’r cyfnod rhanedig yma yn hanes diwydiannol Cymru.
Rumours at the Miners Fortnight
Cymru | 1984 | 26’
Yn ystod diwrnodau heulog Gorffennaf 1983, mae glowyr a’u gwragedd, ar wyliau carafán am bythefnos ger y môr ym Mhorthcawl, yn trafod sefyllfa eu diwydiant dan gysgod Thatcheriaeth. Mae streic y glowyr a barodd flwyddyn (Mawrth 1984-85) ar y gorwel. Cynhyrchwyd gan y Television History Workshop a Gweithdy Fideo Chapter mewn cydweithrediad â Channel Four.
Ceiber - the Greatest Improvisors in the World
Cymru | 1986 | 46’
Mae dynion Pwll Glo Penrhiwceiber yn gwybod bod digon o lo gwych ar ôl yn y pwll, ond mae rheolwyr gwael a diffyg buddsoddiad difrifol yn golygu bod y dyfodol yn dywyll. Dyma bortread teimladwy o gymuned Penrhiwceiber (yn cynnwys glowyr, cyn-lowyr, ac aelodau o’r Grŵp Cymorth Merched) yn ystod Streic y Glowyr 1984/85 a’r cyfnod dilynol.
Only Doing Their Job
Prydain | 1984-5 | 26’
Yn cynnig mewnolwg i stori’r streic o safbwynt y glowyr, dyma ffilm bwerus a oedd un o chwe rîl newyddion a wnaed gan rwydwaith unigryw o wneuthurwyr a gweithdai ffilm ledled gwledydd Prydain. Gydag adroddiadau dramatig am y plismona yn nigwyddiadau’r streic, gan gynnwys ‘Brwydr Orgreave’, gan y glowyr, menywod, a thystion eraill, datgelir y rhagfarn syfrdanol a ddefnyddiwyd i wrthwynebu strwythurau trefniadol llafur ac Undebau Llafur. Bu i’r Miners’ Campaign Tapes ennill Gwobr Grierson am Ffilm Ddogfen yn 1985.
Y ffilmiau wedi eu diogelu a'u digido gan Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
More at Chapter
-
- Film
Chapter Moviemaker (adv 18+)
Chapter's monthly showcase of short films and conversations with the filmmakers behind them.
-
- Film
Bad Film Club
Ymunwch â ni mewn dangosiad o erchyllter – fyddwch chi’n methu aros i weld diwedd cyfnod y noson ar ôl hon.
-
- Film
Ffilm teulu: Wicked Singalong (PG)
Ymunwch a ni am ddangosiad canwch ynghyd o Wicked!
-
- Film
Mickey 17 (15)
Mae gweithiwr tafladwy yn mynd ar genhadaeth beryglus yn y ffilm ffuglen wyddonol ddychanol yma.