
Nodweddion
- Hyd 0h 24m
- Math Contemporary Visual Arts
Ym mis Rhagfyr 2017, creodd yr artist a’r gwneuthurwr ffilm Steve McQueen (g. 1969, Llundain) waith celf mewn ymateb i’r tân a ddigwyddodd yno ar 14 Mehefin yn Nhŵr Grenfell, Gogledd Kensington, Gorllewin Llundain. Bu 72 o bobl farw yn y drychineb. Wrth ffilmio’r tŵr cyn iddo gael ei orchuddio, aeth McQueen ati i greu cofnod: “Ro’n i’n gwybod unwaith y byddai’r tŵr yn cael ei orchuddio, y byddai’n dechrau gadael meddyliau pobl. Ro’n i’n benderfynol na fyddai byth yn cael ei anghofio.”
Yn dilyn y tân, cynhaliwyd Ymchwiliad gan y Llywodraeth o fis Medi 2017 tan fis Medi 2024. Nid yw’r argymhellion a ddeilliodd o’r ymchwiliad wedi’u rhoi ar waith eto, gan olygu y gallai trychineb debyg ddigwydd eto. Mae ymchwiliad troseddol yn mynd rhagddo, gyda chyhuddiadau posib yn cynnwys dynladdiad corfforaethol. Nid oes disgwyl y bydd unrhyw achosion llys yn cael eu cynnal tan 2027 ar y cynharaf, dros ddegawd wedi’r tân.
Cyflwynwyd Grenfell yn 2023 am y tro cyntaf yn Serpentine yng Ngerddi Kensington yn Llundain, ar ôl cyfnod o arddangosiadau preifat a oedd yn blaenoriaethu’r teuluoedd sy’n galaru a’r goroeswyr. Ar ôl ei ddangosiad yno, rhoddwyd y gwaith dan ofal y Tate a chasgliadau Amgueddfa Llundain.
“‘Grenfell’ by Steve McQueen is an urgent and confronting work. The failures of state that it so powerfully highlights resonate across the UK. Here in Wales, we have long-standing and deep-rooted inequalities, which manifest across our communities through poverty, ill health, unemployment and inadequate housing. Alongside this presentation, we’ll be working in solidarity with our network of activist groups and communities to co-create a programme of events that give voice and visibility to injustices locally.” Hannah Firth, Cyfarwyddwr Artistig, Chapter
___
Steve McQueen
Mae Steve McQueen wedi bod yn trafod gyda grwpiau ac unigolion sy’n galaru yn dilyn Grenfell a’r gymuned ehangach dros wahanol adegau dros y saith mlynedd ddiwethaf. Mae wedi cymryd rhan yn y trafodaethau yma er mwyn i Grenfellgael ei gyflwyno’n sensitif, gan gadw’r galarwyr a’r goroeswyr ar flaen ei feddwl. Cafodd y gwaith cynhyrchu ei hunan-ariannu gan McQueen, nid yw’n brosiect masnachol ac ni fydd yn cael ei werthu.
Ganed Steve McQueen yng ngorllewin Llundain yn 1969 ac astudiodd Celf Gain yng Ngholeg Goldsmiths, lle datblygodd ei ddiddordeb mewn ffilm gyntaf. Dros ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae McQueen wedi bod yn ddylanwadol yn ehangu’r modd mae artistiaid yn gweithio gyda ffilm. Mae wedi creu sawl ffilm nodwedd glodwiw, gan gynnwys ennill Gwobr yr Academi am y Ffilm Orau gyda 12 Years a Slave. Cafodd ei ffilm ddiweddaraf, Blitz, ei rhyddhau y llynedd. Fel artist, enillodd McQueen Wobr Turner yn 1999 ac mae wedi arddangos ei waith mewn amgueddfeydd cyhoeddus ledled y byd. Mae’n byw ac yn gweithio yn Llundain ac Amsterdam.
___
Mae’r daith yma’n cael ei chydlynu gan y Tate mewn cydweithrediad â’r lleoliadau partner, ac fe’i gwnaed yn bosib diolch i arian cyhoeddus gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Lloegr a gan Art Fund.
Bydd Grenfell ar gael i’w weld:
Dydd Llun-Mawrth a dydd Gwener-Dydd Sul, 12-4pm.
Dydd Mercher-Iau, 3-7pm.
Bydd dangosiadau Rhieni a Phlant (BABI) am 12pm ar 19 Mai a 2 Mehefin
Bydd dangosiadau ymlaciol (M) am 12pm ar 13 a 27 Mai a 10 Mehefin
Bydd dangosiadau â masg (MPC)* am 15 a 29 Mai a 12 Mehefin
Rydyn ni eisiau sicrhau bod modd i’n hymwelwyr ag imiwnedd bregus weld y ffilm yma’n ddiogel. Mae tocynnau’n cael eu gwerthu ar gapasiti o 50% fel bod modd cadw pellter cymdeithasol. Mae gwisgo masg yn hanfodol oni bai eich bod wedi’ch eithrio.
___
Gwybodaeth i ymwelwyr
Bydd dangosiadau o Grenfell ar adegau penodol. Bydd y drysau’n agor 15 munud cyn y dangosiad a bydd y ffilm yn dechrau’n fuan wedi hynny. Bwriedir i’r gwaith yma gael ei weld o’r dechrau, ac felly yn anffodus ni chaniateir cyrraedd yn hwyr. Hyd y ffilm yw 24 munud.
___
Gwybodaeth am y cynnwys
Mae’r ffilm yn cynnwys lluniau agos o’r tŵr chwe mis ar ôl y tân. Rhowch wybod i aelod o’n tîm os oes angen lle i oedi a myfyrio arnoch ar ôl y dangosiad.
___
Dogfennu a defnydd o ffonau symudol
Ni chaniateir ffilmio na ffotograffiaeth. Sicrhewch fod eich ffonau wedi’u diffodd.
Times & Tickets
-
Dydd Sadwrn 10 Mai 2025
-
Dydd Sul 11 Mai 2025
-
Dydd Llun 12 Mai 2025
-
Dydd Mawrth 13 Mai 2025
-
Dydd Mercher 14 Mai 2025
-
Dydd Iau 15 Mai 2025
-
Dydd Gwener 16 Mai 2025
-
Dydd Sadwrn 17 Mai 2025
-
Dydd Sul 18 Mai 2025
-
Dydd Llun 19 Mai 2025
-
Dydd Mawrth 20 Mai 2025
-
Dydd Mercher 21 Mai 2025
-
Dydd Iau 22 Mai 2025
-
Dydd Gwener 23 Mai 2025
-
Dydd Sadwrn 24 Mai 2025
-
Dydd Sul 25 Mai 2025
-
Dydd Llun 26 Mai 2025
-
Dydd Mawrth 27 Mai 2025
-
Dydd Mercher 28 Mai 2025
-
Dydd Iau 29 Mai 2025
-
Dydd Sadwrn 31 Mai 2025
-
Dydd Sul 1 Mehefin 2025
-
Dydd Llun 2 Mehefin 2025
-
Dydd Mawrth 3 Mehefin 2025
-
Dydd Mercher 4 Mehefin 2025
-
Dydd Iau 5 Mehefin 2025
-
Dydd Gwener 6 Mehefin 2025
-
Dydd Sadwrn 7 Mehefin 2025
-
Dydd Sul 8 Mehefin 2025
-
Dydd Llun 9 Mehefin 2025
-
Dydd Mawrth 10 Mehefin 2025
-
Dydd Mercher 11 Mehefin 2025
-
Dydd Iau 12 Mehefin 2025
-
Dydd Gwener 13 Mehefin 2025
-
Dydd Sul 15 Mehefin 2025
Key
- M Amgylchedd Ymlacio
- MPC Wedi’i masgiau a pellter chymdeithasol
- BABI Rhiant a Babi