Film
Starship Troopers
Nodweddion
UDA | 1997 | 124’ | 18 | Paul Verhoeven
Casper Van Dien, Denise Richards, Dina Meyer, Neil Patrick Harris, Clancy Brown, Michael Ironside
Yn y dyfodol pell, mae’r Ddaear yn rhyfela yn erbyn hil o bryfed estron anferth. Caiff uned filwrol ei hanfon i frwydro yn erbyn y Chwilod, gelyn didostur gydag un genhadaeth: sicrhau goroesiad y rhywogaeth waeth beth fo’r pris. Dychan rwysgfawr ar ffasgiaeth gan grëwr Robocop a oedd mor agos at yr asgwrn nes i lawer fethu’r eironi ar y pryd, ac mae’n dod yn fwy perthnasol wrth i amser fynd yn ei flaen.
Sinema Slime Mother
O glasuron cwlt i ffilmiau diweddar, mae’r detholiad yma o ffilmiau – a ddewiswyd mewn cydweithrediad â’r artist Abi Palmer – sy’n cynnwys ffilmiau arswyd, ffuglen wyddonol, rhamant a dogfen, yn cynnig gwahanol ffyrdd o weld y byd. Mae’r holl docynnau ar gyfer cyfres Sinema Slime Mother ar gael am bris gostyngol, sef £5 a ffi archebu. Defnyddiwch y cod SLIME5.
Mae’r ffilm yma, sydd wedi’i dewis mewn cydweithrediad â’r artist Abi Palmer, yn rhan o Sinema Slime Mother, sef detholiad o glasuron cwlt a ffilmiau diweddar, sy’n cynnwys ffilmiau arswyd, ffuglen wyddonol, rhamant a dogfen, ac yn cynnig gwahanol ffyrdd o weld y byd. Mae pob tocyn ar gyfer y tymor yma ar gael am bris gostyngol, sef £5 a ffi archebu. Defnyddiwch y cod SLIME5.