Film

Soundtrack to a Coup D'Etat (12A)

  • 2024
  • 2h 30m
  • Belgium

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Johan Grimonprez
  • Tarddiad Belgium
  • Blwyddyn 2024
  • Hyd 2h 30m
  • Math Film

Y Cenhedloedd Unedig, 1960: mae De’r Byd yn tanio daeargryn gwleidyddol, mae’r cerddorion jazz Abbey Lincoln a Max Roach yn meddiannu’r Cyngor Diogelwch, mae Nikita Khrushchev yn ergydio’i esgid, ac mae Adran Wladol yr UDA yn mynd ati i weithredu, gan anfon y llysgennad jazz Louis Armstrong i’r Congo i dynnu’r sylw oddi ar y gwrthryfel a gefnogwyd gan y CIA.

Mae’r cyfarwyddwr Johan Grimonprez yn cyfleu’r foment pan wnaeth gwleidyddiaeth Affrica wrthdaro â jazz Americanaidd yn y ffilm draethawd anhygoel yma. Dyma daith hanesyddol gyffrous sy’n taflu goleuni ar y gweithrediadau gwleidyddol oedd tu ôl i lofruddiaeth arweinydd y Congo, Patrice Lumumba, yn 1961.

Mae’r ffilm yn gyfoeth o adroddiadau llygad-dystion, memos swyddogol y llywodraeth, tystiolaeth gan filwyr a swyddogion y CIA, areithiau gan Lumumba ei hun, a gwledd wirioneddol o eiconau jazz; dyma ymchwiliad pwysig i hanes gwladychiaeth, gan adrodd stori daer ac amserol am gynsail, sy’n fwy perthnasol nag erioed yn hinsawdd geowleidyddol yr oes sydd ohoni.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Share