
Performance
Sing to Stay Alive: Datblygiad Artistiaid gyda Jenny Moore a Wild Mix
- 2h 0m
Nodweddion
- Hyd 2h 0m
Yn cynnull cymysgedd o artistiaid, symudwyr, gwneuthurwyr a cherddorion lleol, bydd y gweithdy yma’n meithrin amgylcheddau cydweithredol ar draws mathau o gelfyddyd, dan arweiniad yr artist Jenny Moore ac aelodau o gwmni Wild Mix. Byddan nhw’n canolbwyntio ar ddysgu ac ehangu’r methodolegau, y repertoire a’r defodau unigryw sydd i’w cael yng ngwaith Moore, ac yn casglu data creadigol o’r gofod arbrofol sydd wedi’i gyd-greu rhwng cyfranogwyr. Nid yn unig mae’r gweithdai yma’n ategu datblygiad sgôr symud ein sioe gerdd - Wild Mix - ond maen nhw hefyd yn magu potensial ar gyfer teithio a chastio yn 2025, gan dyfu rhwydwaith o artistiaid cyffrous i weithio gyda nhw na fydden ni’n dod o hyd iddyn nhw mewn prosesau castio traddodiadol.
Ynglŷn â Wild Mix
Sioe gerdd newydd gan Jenny Moore yw Wild Mix, sy’n cynnwys ensemble cwiar o bum canwr, drymwyr, cic-focsiwr, ac yn olaf, côr. Maen nhw’n gariadon, yn gydweithwyr, yn gyd-letywyr, yn gyfeillion. Drwy’r cylch cân chwe-rhan esgynnol, lleisiau haenog, curiadau dwys a straeon teimladwy, mae’n gofyn: Sut deimlad yw iachâd? Wrth ei wraidd mae offeryn unigryw Jenny: bag bocsio tryloyw llawn dŵr gyda hydroffon. Mae’n pwyso 50 cilogram ac yn dyrog fel corff person, ac mae’r bag yn meithrin perthynas sonig bersonol a chorfforol, gan siapio ein rhyngweithiadau i ennyn sain – dyma guriad calon y seinwedd. Gyda’i gwreiddiau mewn canu cymunedol, cic-focsio, a drymio, mae Wild Mix yn ymgorffori arferion bob dydd iachâd cwiar.
Ymhlith y cydweithwyr a’r perfformwyr mae Nandi Bhebhe, Luisa Gerstein, Bianca Stephens, Zahra Haji Fath Ali Tehrani, a Sib Trigg gyda chefnogaeth datblygu gan yr ensemble cwiar ffeministaidd o Lundain, F*Choir.
Ynglŷn â'r artist
Cyfansoddwraig, cantores, drymiwr ac artist byw, sydd o Ganada yn wreiddiol, yw Jenny. Mae llais a rhythm yn gyrru ei gwaith cyfansoddi, ac mae adrodd straeon somatig â gwreiddiau dwfn wrth galon ei gwaith ysgrifennu a chyfarwyddo. Mae’r arfer yma’n gweithio o draddodiadau llafar/clywedol, y corff, a rhythm, gyda damcaniaethau bondio cyhyrol a Gwrando Dwfn, ac offer coreograffig ar gyfer tiwnio, synhwyro, ac ehangu cerddoriaeth. Mae’n credu bod cerddoriaeth yn greadur cymdeithasol, yn barod ar gyfer symudiad gwleidyddol. Mae Jenny’n trefnu ac yn ysgrifennu ar gyfer F*Choir, gan gynnig caneuon bachog cymhleth a rhythmig sy’n herio cantorion i fod yn lleiswyr corfforol llawn, gan ymgorffori elfennau taro a thechneg lleisiol estynedig. Mae ei phymtheg mlynedd o brofiad addysgu a hwyluso yn cefnogi ei harddull arwain chwareus a theimladwy.
Ymhlith ei phrosiectau eraill mae: Ensemble pync-corawl o Lundain, Jenny Moore’s Mystic Business, sy’n adnabyddus am eu cerddoriaeth daro diwniedig, lleisiau mawr, a mantras eneidiol yn cael eu llafarganu, cymysgedd o R&B y nawdegau a’r ôl-pync cafodd Jenny ei magu â nhw. Cafodd eu EP cyntaf, "He Earns Enough", ei rhyddhau ar Lost Map Records yn 2021, gyda The Piano Tapes Vol. 1, wedi’i recordio’n fyw yn St Barnabas, Dalston i ddilyn yn 2022.
Mae ei sioe gerdd pync-corawl arbrofol newydd, "Wild Mix" – sy’n ddefod cic-focsio, drymio a chanu cwiar – yn cael ei datblygu ar hyn o bryd.
Mae hi i’w gweld yn rheolaidd ar sîn DIY Llundain mewn bandiau fel y triawd pync-dawns Charismatic Megafauna a Bas Jan, mae’n cyflwyno sioe radio ar Soho Radio o’r enw ‘Hitting Things’ ac yn ddiweddar bu’n gweithio yn y theatr am y tro cyntaf fel cyfansoddwr ar gyfer Robin Hood: The Legend Re-Written yn Theatr Awyr Agored Regents’ Park.
More at Chapter
-
- Performance
Marikiscrycrycry: Goner
The Goner is someone who is doomed with no chance of survival—bound to death, a lost and hopeless case. This work follows this figure on a sensuous, suspense-filled and fearsome choreographic journey into the psychological depths of the Goner’s horror.
-
- Performance
Ocean Hester Stefan Chillingworth: Blood Show
A show for anyone with a body, this is a euphoric choreography between three figures and 75 litres of fake blood.
-
- Performance
Welsh Ballroom Community X Supreme 007 & Tayo 007 presents The Bad B Kiki Ball
This Halloween, it’s time to activate the villainess that lives within all of us at ‘The Bad B Kiki Ball!!’