Performance

Te Parti Section 28 and Me

  • 2h 0m

Nodweddion

  • Hyd 2h 0m
  • Math Plays/Drama

Mewn cysylltiad â’i sioe newydd, Section 28 and Me, sy’n dod i Chapter ym mis Mehefin, mae’r artist Tom Marshman o Fryste yn cynnull cymunedau i archwilio effaith deddfwriaeth Adran 28 a gyflwynwyd gan lywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Tom wedi bod yn cynnal te partis ac yn casglu straeon o bob rhan o Brydain. Yn bersonol, mae’n meddwl tybed a yw tyfu i fyny yn ystod y degawd pan oedd bywyd cwiar yn cael ei dawelu wedi golygu ei fod yn rhywun sy’n dangos ei hunan, ac sy’n cael ei gymell i rannu straeon cwiar neu LHDTCRhA+? Mae wedi gweld ymatebion cryf i’r ddeddfwriaeth yma – mae emosiynau’n agos i’r wyneb, yn enwedig yn ystod y cyfnod peryglus yma pan mae’n bosib i ddeddfwriaeth debyg ymddangos unwaith eto, gan ddychwelyd at dawelu cwiardeb y wlad.

Mae te partis yn lle i gymunedau gwrdd a rhannu eu straeon dros baned a chacen. Efallai eich bod wedi byw drwy’r cyfnod yma neu eich bod yn awyddus i wybod mwy, mae croeso i bawb. Bydd perfformiadau byr yn gysylltiedig â’r pwnc i ysgogi sgwrs, gan gynnig man cychwyn ar gyfer trafodaeth.

Artist perfformio a cherddor aml-offeryn sy’n byw yng Nghaerdydd yw Frances Bolley. Mae gwreiddiau ei harfer creadigol mewn chwarae a byrfyfyrio, gyda sylfaen ddamcaniaethol gyfoethog, gan ddefnyddio iaith a chanon cerddoriaeth, theatr, dawns, celf gain ac athroniaeth i archwilio straeon, llesiant, ysbrydolrwydd, a’r berthynas rhwng awdur a gwrandäwr.

Fel artist unigol o dan yr enw ‘Incorrigible Girl’, mae Frances yn ysgrifennu am ei phrofiadau fel Menyw Hil-gymysg, Niwroamrywiol, Drawsryweddol, Gwiar, Gristnogol. Mae’n edrych ymlaen i ddod â holl ffrydiau ei harfer amlddisgyblaethol at ei gilydd i ffurfio cysylltiadau ystyrlon gyda’i chynulleidfa.

Credid llun: Mark Gray

Mae’r perfformiad yma’n un Talwch Faint Allwch Chi. Dewiswch bris tocyn ar sail beth allwch ei fforddio.

Mae taliadau’n mynd yn uniongyrchol i gefnogi ein helusen, fel bod modd i ni weithio gydag artistiaid a’n cymuned i gynnig mwy o berfformiadau, arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau fel hyn yn y dyfodol.

Share