i

Film

Santosh (15)

15
  • 2024
  • 2h 8m
  • UK

£7 - £9

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Sandhya Suri
  • Tarddiad UK
  • Blwyddyn 2024
  • Hyd 2h 8m
  • Tystysgrif 15
  • Math Film

Hindi gyda isdeitlau Saesneg

Ar ôl i’w gŵr, oedd yn gwnstabl yn yr heddlu, gael ei ladd yng nghefn gwlad gogledd India, does gan Santosh ddim unman i fynd, ac mae’n camu’n anfodlon i’w swydd drwy gynllun llywodraethol lle mae modd iddi etifeddu ei swydd. Pan fydd merch Dalit (cast isel) yn ei harddegau yn cael ei chanfod wedi’i llofruddio, gyda bachgen Mwslimaidd dan amheuaeth, mae protestiadau’n tanio yn y gymuned leol a chaiff ei thynnu i’r achos o dan yr Uwch-arolygydd benywaidd newydd Sharma sy’n llwyddo i ddelio â diwylliant misogynistaidd yr orsaf heddlu. Wrth i’r achos ddatblygu, mae’n rhaid i’r ddwy fenyw wynebu eu lle mewn system lygredig (ac sy’n llygru), ac mae moesau Santosh yn cael eu herio gan wirioneddau ei byd. Astudiaeth gymhleth o gymeriad a ffilm gyffro ddwys a chrefftus, sy’n edrych ar rywedd, cast, a chrefydd yng nghefn gwlad India.

Rhaghysbysebion a chlipiau

Share

Times & Tickets