Film

SAFAR: Wedding in Galilee

  • 1h 55m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 55m
  • Math Film

Palesteina | 1987 | 115’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Michel Khleifi | Arabeg gydag isdeitlau Saesneg | Makram Khoury, Bushra Karaman

Wedi’i eni yn Nasareth yn 1950 i deulu dosbarth gweithiol o Balesteina, caiff Michel Khleifi ei ystyried fel sylfaenydd sinema gyfoes Palesteina ac yn un o’i lleisiau mwyaf gwreiddiol. Ar ôl mudo i Wlad Belg yn 1970, astudiodd theatr a theledu yn INSAS, Brwsel, a gweithio i’r RTBF (teledu Gwlad Belg) cyn creu ei ffilm ddogfen nodwedd gyntaf, Fertile Memory (1980), a oedd yn cyfuno estheteg delynegol gydag ymgysylltiad gwleidyddol beirniadol, fel y gwnaeth Maloul Celebrates its Destruction (1985).

Yn 1987, cyfarwyddodd Wedding in Galilee, y ffilm nodwedd gyntaf i gael ei saethu’n llwyr ym Mhalesteina gan gyfarwyddwr o Balesteina. Cafodd ei dangos am y tro cyntaf ym Mhythefnos Cyfarwyddwyr Cannes ac enillodd Wobr Ryngwladol y Beirniaid ymhlith sawl gwobr arall. Dyma oedd cam cyntaf sinema Palesteina i’r sîn ryngwladol. Mae Wedding in Galilee yn stori delynegol ac angerddol am briodas sy’n digwydd mewn pentref wedi’i feddiannu, a’r tensiynau cyfoes, y gwrth-ddweud a’r elyniaeth o’i chwmpas. Gan siarad am y ffilm adeg ei chynhyrchu, meddai Khleifi, “Ym Mhalesteina, mae gwleidyddiaeth ym mhobman, felly ro’n i am ddangos sut mae yna fywyd ar un llaw, a gwleidyddiaeth ar y llall, a sut maen nhw’n dod at ei gilydd o hyd ym Mhalesteina”. (The Guardian, 1986). Ymunwch â ni wrth i ni ailedrych ar y ffilm glasurol yma sydd wedi’i hadfer yn ddiweddar a myfyrio ar ei harwyddocâd yng nghanon sinema Palesteina.

Wedding in Galilee is a lyrical, passionate tale of a wedding that takes place in an occupied village, and the contemporary tensions, contradictions and hostilities that surround it.

Share