Performance
Rufus Mufasa: Tri(ger) Warning(s) album launch
- 3h 0m
Nodweddion
- Hyd 3h 0m
Ymunwch â ni i ddathlu rhyddhau albwm mawr ei haros gan Rufus Mufasa, sy’n dod â dyfeisgarwch dwyieithog ’nôl.
Mae’r corff yma o waith yn ddilyniant uniongyrchol i’w gwaith clodwiw Flashbacks & Flowers, gan ddathlu hip hop a hybridedd, dwyieithrwydd a dewrder, codi twrw a chodi’n ôl. Yn arbennig i Chapter, mae’r lansiad yma’n sicr o fod yn uchafbwynt diwylliannol – yn destament i wydnwch, grym a gras.
Mae’r artist amlddisgyblaethol o fri Rufus Mufasa (Flashbacks & Flowers 2021, both stranger & of this place 2019, Pencampwr Slam Coracle Europe 2023) yn rhyddhau eu halbwm hip hop hybrid Tri(ger) Warning(s) gan lansio’r label recordiau newydd Swynwraig. Gan alw o’r cyrion, archwilio damcaniaethau geiriau allweddol a ieithoedd brodorol sy’n arwyddocaol i’r dirwedd, mae eu gwaith yn ein hatgoffa i barhau i symud, parhau i greu, parhau i gicio’n ôl, a pharhau i alw allan.