i

Film

Reclaim The Frame Presents AN ARMY OF WOMEN

12A
  • 2024
  • 1h 24m

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan Julie Lunde Lillesæter
  • Blwyddyn 2024
  • Hyd 1h 24m
  • Tystysgrif 12A
  • Math Film

Pan fydd achosion o dreisio Amy, Marina a Hanna yn cael eu diystyru gan heddlu Austin, mae’r tair menyw yn ceisio dod o hyd i ffordd o ailadeiladu eu bywydau. Maen nhw’n ymuno â deuddeg menyw arall mewn cyd-achos cyfreithiol ffederal arloesol, yr achos cyntaf i ddadlau mai’r rheswm na chaiff ymosodiadau rhywiol eu herlyn yw ei bod yn drosedd sy’n effeithio ar fenywod yn bennaf. Mae’r grŵp yn benderfynol o ddal yr heddlu a’r erlynwyr i gyfrif am eu diffyg gweithredu, ond mae eu gwytnwch yn cael ei herio wrth iddyn nhw wynebu rhwystrau’r system maen nhw’n gobeithio ei newid. Yn y pen draw, mae AN ARMY OF WOMEN yn cynnig golwg gobeithiol ar ymgyrch sy’n ceisio newid y dyfodol i fenywod ym mhob man.

I ddilyn y dangosiad bydd sgwrs gyda’r cyfarwyddwr Julie Lunde Lillesæter a Sara Kirkpatrick.

___

Elusen yw Reclaim The Frame sy’n eirioli dros safbwyntiau ymylol ym myd y sinema, gan gysylltu â chynulleidfaoedd a chymunedau drwy ddangosiadau arbennig a digwyddiadau ledled gwledydd Prydain. 

Mae digwyddiadau Reclaim The Frame yn creu lle i drafod yr hyn sydd dan wyneb pob stori. Os hoffech fod yn Eiriolwr dros y gwaith maen nhw’n ei wneud, ymunwch â rhestr e-bost Reclaim The Frame.

Mewn cydweithrediad â Rape Crisis Cymru a Lloegr, elusen ffeministaidd sy’n gweithio i roi diwedd ar gamdriniaeth rhywiol plant, trais, aflonyddu rhywiol, a phob math arall o drais rhywiol.

Share