Art

Archif Bosteri’r ESGIDIAU COCHION

Free

Nodweddion

  • Math Exhibition

Mae Archif Bosteri’r ESGIDIAU COCHION yn arddangos dros 250 o bosteri protest rhyngwladol rhwng 1894 a 2024. O herio llywodraethau, cyfundrefnau, anghyfiawnder ac anghydraddoldeb, mae posteri’n wrthrychau herfeiddiol o anufudd-dod, ac mae’r arddangosfa yma’n myfyrio ar rym y poster fel dull cyfathrebu gweledol hanfodol ar gyfer mudiadau protest ledled y byd. Dros y penwythnos bydd Curadur yr Archif, Shaun Feathersone, yn rhoi sgyrsiau byrion, a bydd cyfle i chi gyfrannu eich gwybodaeth i’r arddangosfa.

Bydd atgynyrchiadau o lawer o’r posteri ar werth am brisiau fforddiadwy hefyd, gan sicrhau bod y gwaith ar gael i bawb ac i godi arian ar gyfer yr archif.

Timetable -


Saturday 29 June

Sunday 30 June
11am-5pm - Archif Bosteri’r ESGIDIAU COCHION11am-5pm - Archif Bosteri’r ESGIDIAU COCHION
11.15am-4.15pm - Acorn Screenings
Acorn Screenings
12pm - Archif Bosteri’r ESGIDIAU COCHION: Holi ac Ateb
11am - Archif Bosteri’r ESGIDIAU COCHION: Holi ac Ateb
3.30pm - Galwad i Weithredu: Creu eich poster protest eich hun
1pm - Gwrth-gyrchoedd – Sgwrs Gymunedol
5pm - Archif Bosteri’r ESGIDIAU COCHION: Parti Archif-a-thon
3pm - Archif Bosteri’r ESGIDIAU COCHION: Holi ac Ateb


Ynglŷn â’r Archif

Mae Archif Bosteri’r ESGIDIAU COCHION yn archif ddigidol a chorfforol, yn osodwaith celf symudol, ac yn brosiect hanes dosbarth gweithiol ac addysg wleidyddol sydd wedi’i leoli yn y de-ddwyrain. Mae’n gweithredu drwy wirfoddolwyr dan arweiniad artistiaid ac undebau llafur, ac yn casglu ac yn cadw posteri o’r sbectrwm cyfiawnder cymdeithasol cyfan. Lansiwyd yr archif yn 2020, ac mae bellach yn cynnwys dros 1600 o bosteri copi caled, effemera, a llyfrgell gynyddol o lyfrau’n ymwneud â chelf, print a graffeg posteri gwleidyddol. Mae’r casgliad yn tynnu sylw at ymgyrchoedd a gweithredoedd o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol chwith blaengar a radical, e.e. heddwch, gwrth-gyfalafiaeth, argyfwng hinsawdd, undod rhyngwladol, cyfiawnder hil, hawliau sifil, a ffeministiaeth. Eu prif swyddogaeth yw ymgyrchu diwylliannol; defnyddio’r casgliad i godi ymwybyddiaeth o hanes diwylliannol a chymdeithasol gweithwyr drwy bosteri. Mae hyn yn agor deialog, trafodaeth a gwerthfawrogiad o rôl a gwerth posteri fel dulliau ymgyrchu yng nghyd-destun newid cymdeithasol a gwleidyddol. Mae’r teitl ESGIDIAU COCHION yn cyfeirio at y lliw sy’n cael ei gysylltu fwyaf â mudiadau torfol dan arweiniad gweithwyr, a’r syniad ein bod ni’n cerdded yn ôl troed y rhai a fu o’n blaenau, gan barhau â’r frwydr i ennill byd mwy teg, cyfiawn a chynaliadwy. Mae’r archif yn unigryw i Gymru, a dyma’r unig gasgliad yng ngwledydd Prydain sy’n edrych yn unswydd ar gasglu a chadw posteri cyfiawnder cymdeithasol

Share