i

Performance

Osian Meilir: Qwerin

  • 0h 35m

Nodweddion

  • Hyd 0h 35m
  • Math Dance

Yn llawn asbri, lliw a rythmau cyffrous, ysbrydolwyd QWERIN gan wead a phatrymau'r ddawns werin Gymreig, ynghyd ag egni heintus bywyd nos Cwiar. Daw QWERIN yn ôl eleni i gynnig sylwebaeth pellach ar y cysyniad o ‘Queerness’ a Chymreictod. Perfformiad dawns gyfoes sy’n ddathliad egnïol o ddiwylliant, hunaniaeth a chymuned yw QWERIN. Perfformir i sgôr sain wreiddiol gan rai o gerddorion amlycaf Cymru â gwisgoedd trawiadol sy’n rhoi blas newydd i’r wisg draddodiadol Gymreig. Mae QWERIN yn wledd i’r glust a’r llygad.

Cafodd QWERIN ei greu yn ystod haf 2021 dan gomisiwn arbrofol i Articulture a Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru. Cafodd ei ddatblygu i fod yn ddarn cyflawn yn 2022 drwy gymorth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru a chymorth cefnogol Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Llun: Qwerin by Sioned Birchall

Mae’r perfformiad yma’n un Talwch Faint Allwch Chi. Dewiswch bris tocyn ar sail beth allwch ei fforddio.

Mae taliadau’n mynd yn uniongyrchol i gefnogi ein helusen, fel bod modd i ni weithio gydag artistiaid a’n cymuned i gynnig mwy o berfformiadau, arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau fel hyn yn y dyfodol.

Share