Film
Queendom (15)
- 1h 36m
Nodweddion
- Hyd 1h 36m
UDA | Agniia Galdanova | Rwsieg gydag isdeitlau Saesneg
Mae Gena Marvin, artist o dref fach yn Rwsia, yn gwisgo dillad mawreddog ac yn protestio yn strydoedd Moscow, gan lwyfannu perfformiadau radical yn gyhoeddus, sy’n dod yn ffurf newydd ar gelf ac ymgyrchu, ac sy’n peryglu ei bywyd. Mae’n bresenoldeb coegwych a chyffrous, ac nid yw ffitio i mewn yn natur Gena. Mae’r ffilm ddogfen eithriadol yma gan y cynhyrchydd a greodd ffilm graff Welcome to Chechnya yn edrych ar y dewrder a’r cymhelliad i fyw bywyd yn rhydd.
More at Chapter
-
- Film
Bad Film Club
-
- Film
BFI LFF 2024: The Wild Robot (U)
-
- Film
Conclave (12A)
Gan y cyfarwyddwr Edward Berger (All Quiet on the Western Front), mae CONCLAVE yn dilyn un o ddigwyddiadau mwyaf cyfrinachol a hynafol y byd – dewis Pab newydd. Mae Cardinal Lawrence (Ralph Fiennes) yn gyfrifol am redeg y broses gudd yma ar ôl marwolaeth annisgwyl y Pab annwyl. Pan fydd arweinwyr mwyaf pwerus yr Eglwys Gatholig yn cynnull o bob rhan o’r byd ac wedi’u cloi gyda’i gilydd yn neuaddau’r Fatican, mae Lawrence yn sylwi ei fod yng nghanol cynllwyn ac yn darganfod cyfrinach a allai ysgwyd sylfeini’r Eglwys.
-
- Film
Queer (18)
Mae Lee’n edrych ’nôl ar ei fywyd yn Ninas Mecsico ymhlith myfyrwyr coleg Americanaidd a pherchnogion bar, gan oroesi ar swyddi rhan amser a budd-daliadau’r GI Bill. Mae’n mynd ar drywydd dyn ifanc o’r enw Allerton, sy’n seiliedig ar Adelbert Lewis Marker.