Art

Public Preview: Abi Palmer

£7 - £9

Nodweddion

Ymunwch â ni a’r artist Abi Palmer i ddathlu agoriad ei harddangosfa newydd, Slime Mother – sy’n cynnwys gastropodau sanctaidd, maniffesto llysnafeddog a disgo malwod enfawr – mewn archwiliad amlsynhwyraidd a fydd yn gwneud i ni deimlo’n fwy gwlithenaidd.

Rydyn ni eisiau croesawu mor gynted ohonoch chi i'r agoriad ag sy'n bosib felly, ar 19 a 20 Gorffennaf, rydyn ni'n cynnig tair ffordd i ddod at ein gilydd a dathlu'r agoriad gyda'r artist.

Nos Wener 19 Gorffennaf, 4-6pm, Oriel:

Yn ystod y cyfnod yma, rydyn ni’n gofyn i bobl wisgo mwgwd ac i beidio â gwisgo persawr. Bydd y synau yn yr arddangosfa yn dawelach.

Bydd lluniaeth ar gael yn y caffi, sydd hefyd ag ardal eistedd awyr agored.

Ymateb yma.

Nos Wener 19 Gorffennaf, 6-8pm, Oriel:

Am 7pm, bydd darlleniad byr gan Abi o’r testun sy’n cyd-fynd â’r arddangosfa, Slugs: A Manifesto (a gyhoeddwyd gan Makina Books). Bydd bar talu ar gael.

Nid yw gwisgo mwgwd yn orfodol, ond mae croeso i chi wneud.

Ymateb yma.

Dydd Sadwrn 20 Gorffennaf, 12pm-1.15pm, Ar-lein:

Taith rithwir fer gan Ali cyn darlleniad byr o Slugs: a Manifesto. Bydd capsiynau ar gael. Gallwch archebu lle yma a bydd y cyfarwyddiadau ymuno yn cael eu hanfon atoch drwy e-bost.

Cliciwch yma i archeb lle i'r daith ar-lein.

Dehongliad Iaith Arwyddion Prydain gan Rebecca Mahoney.

Hygyrchedd

Mae Chapter yn adeilad mynediad gwastad. Mae digonedd o seddi ar wahanol lefelau drwy gydol yr arddangosfa.

Mae teithiau Iaith Arwyddion Prydain o’r arddangosfa wedi’u trefnu drwy gydol y tymor – ewch i’n gwefan i weld y diweddaraf.

Gallwch ddysgu mwy am fynediad corfforol i Chapter, gan cynnwys taith disgrifiad-sain o'r adeilad, yma https://www.chapter.org/cy/ymweliad/hygyrchedd-2-2.

Cysylltwch â ni os oes gennych ofynion hygyrchedd penodol yr hoffech eu trafod cyn ymweld.

Share

Times

  • Dydd Gwener 19 Gorffennaf 2024

    1. 4:00yh