Film

Reclaim the Frame yn cyflwyno: The Outrun + holi ac ateb

  • 1h 58m

Free

Coming soon

Nodweddion

  • Hyd 1h 58m
  • Math Film

UK | 2024 | 15 | 118’ | Nora Fingscheidt | Saoirse Ronan, Stephen Dillane, Paapa Essiedu, Saskia Reeves
Nodiadau cynnwys: Mae’r ffilm yma’n cynnwys darluniau o drais, cam-drin cyffuriau, a iaith homoffobaidd.

Mae Rona, sydd newydd adael canolfan adsefydlu, yn dychwelyd i Ynysoedd Erch ar ôl bod i ffwrdd ers dros ddegawd. Wrth iddi ailgysylltu â’r dirwedd ddramatig lle cafodd ei magu, mae atgofion o’i phlentyndod yn uno â’r digwyddiadau heriol mwy diweddar a ddechreuodd ei thaith at adferiad. Mae’r wneuthurwraig ffilm Nora Finscheidt yn dilyn y ffilm anhygoel System Crasher gyda’r addasiad yma o gofiant Amy Liptrot am gaethiwed a gobaith, gyda pherfformiad clodwiw gan Saoirse Ronan.

+ Recorded Q&A with Saoirse Ronan and Director Nora Fingscheidt, with descriptive subtitles. Disgrifiad Sain ar gael.

___

The Spirit Fox

Baddon sain 40 munud | 7.10pm | Gofod Peilot, Chapter | Cyntaf i’r felin

Gan weithio gyda sain fel dull iachâd ers dros bymtheg mlynedd, mae The Spirit Fox yn cynnig amrywiaeth o driniaethau buddiol i iechyd ym maes therapi sain a iachâd siamanaidd.

Wedi’u lleoli ym Mhenarth ers dwy flynedd, mae’r therapydd sain a’r Siaman yn adnabyddus am eu baddon sain atmosfferig ac ymlaciol, yn ogystal â gweithdai, encilion, sesiynau un i un a dosbarthiadau.

Mae’r busnes yn rhan o’r CMA – sef y Gymdeithas Feddygol Gyflenwol – ac mae’n gweithio gyda grwpiau yn y GIG a phractisau holistig eraill.

Estynnwn groeso i chi ymuno â ni ar gyfer baddon sain, ar daith ymdrochol, myfyriol a hardd gyda sain.

Bydd y synau a’r dirgryniadau iachaol sy’n cael eu creu gyda’r gongs, powlenni canu Crisial a Himalaiaidd, clychau, drwm a ffon law, yn lleddfu’ch corff i gyflwr myfyriol.

Ymlaciwch. Ail-ddechreuwch. Ail-gydbwyswch.

Dewch â:
• Mat i orwedd arno.
• Gobennydd a blanced i fod yn gyfforddus.
• Dŵr i’w yfed.

⚠️ Ni ddylech gael baddon sain os oes gennych epilepsi neu os ydych chi’n feichiog o dan 13 wythnos.

___

Elusen yw Reclaim The Frame sy’n eirioli dros safbwyntiau ymylol ym myd y sinema, gan gysylltu â chynulleidfaoedd a chymunedau drwy ddangosiadau arbennig a digwyddiadau ledled gwledydd Prydain. 

Mae digwyddiadau Reclaim The Frame yn creu lle i drafod yr hyn sydd dan wyneb pob stori. Os hoffech fod yn Eiriolwr dros y gwaith maen nhw’n ei wneud, ymunwch â rhestr e-bost Reclaim The Frame.

Os yw pris tocyn yn rhwystr, cysylltwch â mail@reclaimtheframe.org gan fod gan yr elusen nifer gyfyngedig o docynnau am ddim sydd ar gael i’r rhai sydd eu hangen. 

Share

Digwyddiadur - cipolwg

Rydym yn newid i dudalen a fydd yn darparu'r holl wybodaeth byddwch chi angen ar gael ar unrhyw bryd.

Rydym yn cyflwyno ffordd newydd o fynedi ein rhaglen ffilmiau a digwyddiadau, gyda chanllaw digwyddiadau byw sy’n darparu gwybodaeth ddiweddaraf amdan y lleoliad, dyddiad, amser a gwybodaeth hygyrch am bob digwyddiad, gan gynnwys ffilm!

Dysgu mwy