Film
Powell & Pressburger: The Red Shoes (PG)
- 2h 15m
Nodweddion
- Hyd 2h 15m
Prydain | Michael Powell, Emeric Pressburger | Moira Shearer, Anton Walbrook, Marius Goring
Mae’r falerina uchelgeisiol Vicky Page yn cael ei rhwygo rhwng ei hymroddiad i ddawns a’i dymuniad am gariad, pan mae’n cael ei chastio mewn addasiad o The Red Shoes gan Hans Christian Anderson. Er bod ei hyfforddwr llym yn ei hannog i anghofio am bopeth ond bale, mae’n dechrau cwympo mewn cariad â’r cyfansoddwr ifanc Julian Craster. Wrth gael ei gwthio i’r dibyn, mae’n rhaid i Vicky ddewis rhwng ei dymuniadau deuol, a derbyn canlyniadau ei phenderfyniad. Y campwaith sinistr ac atmosfferig yma, gyda ffotograffiaeth hyfryd gan Jack Cardiff, sy’n cloi ein tymor.
Dangosiad yn rhan o Cinema Unbound: The Creative Worlds of Powell + Pressburger, tymor o ffilmiau ledled y DU a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol a Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI bfi.org.uk/powell-and-pressburger.
Celf ac Obsesiwn
Gan gloi gyda’n ffilm olaf o’r tymor, cyflwynwn gyfres o ffilmiau ar gelf ac obsesiwn. Ysbrydolwyd tarddiad stori The Red Shoes gan ddigwyddiad ym mhlentyndod Hans Christian Anderson, lle gwelodd ei dad yn creu esgidiau hyfryd i gwsmer, ond pan gafodd ei sarhau ganddi, fe ddinistriodd nhw. Gyda’r ysbrydoliaeth yma, edrychwn ar obsesiynau eraill ym myd sinema, sy’n mynd â sbarc greadigol i eithafion obsesiynol.
More at Chapter
-
- Film
Chapter Moviemaker (adv 18+)
Chapter's monthly showcase of short films and conversations with the filmmakers behind them.
-
- Film
Bad Film Club
-
- Film
BFI LFF 2024: The Wild Robot (U)
-
- Film
A Real Pain (U)
Mismatched cousins David (Jesse Eisenberg) and Benji (Kieran Culkin) reunite for a tour through Poland to honour their beloved grandmother. The adventure takes a turn when the odd-couple’s old tensions resurface against the backdrop of their family history.