Performance

Strike Out presents: Pits and Perverts

  • 5h 30m

£5 - £15

Nodweddion

  • Hyd 5h 30m
  • Math General Entertainment

Ddeugain mlynedd ar ôl streic y glowyr 1984-85, ymunwch â ni mewn noson o ddathlu a dysgu gyda Strike Out.

Profwch lyfrgell ddynol o siaradwyr – o’r rhai a fu’n rhan o fudiad Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi’r Glowyr (LGSM) yn yr wythdegau, i weithwyr yn brwydro dros eu hawliau a rhyddid pobl Gwiar a dosbarth gweithiol yng Nghymru heddiw.

Mwynhewch y gorau o ddoniau lleol drwy drag, corau, a cherddoriaeth fyw, cyn dawnsio drwy’r nos gyda DJ lleol. Byddwch yn gadael y dathliad yn teimlo cynhesrwydd cymuned, hanes, ac undod!

Grŵp o ymgyrchwyr Cwiar yng Nghaerdydd yw Strike Out, sy’n dangos undod gydag achosion gweithwyr a mudwyr, ar ôl cael eu hysbrydoli gan y mudiad LGSM gwreiddiol a Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi Mudwyr. Maen nhw’n trefnu digwyddiadau codi arian ledled Caerdydd ac yn rhoi’r holl arian i gronfeydd streicio a sefydliadau sy’n cefnogi mudwyr LHDTCRhA+. 

Share

Times & Tickets