Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Lansiad Albwm Uwch Dros y Pysgod - Dafydd Owain

Iau 8 Meh

Ymunwch â Dafydd Owain ar daith gerddorol drwy fyd dychmygol Uwch Dros y Pysgod. Bydd y cerddor dawnus yn camu ar lwyfannau yng Nghaernarfon a Chaerdydd am ddwy noson fythgofiadwy, wrth iddo lansio ei albwm unigol gyntaf, ‘Uwch Dros y Pysgod’. Gyda chyfres o senglau oddi ar ei albwm gyntaf eisoes wedi profi’n boblogaidd, gan gynnwys ‘Uwch Dros y Pysgod’ (Trac yr Wythnos BBC Radio Cymru) a ‘Gan Gwaith’, mae Dafydd yn cynnig cyfle prin i brofi’r albwm yn ei chyfanrwydd yn fyw gyda’i fand llawn.

Bydd Ffenest, band newydd sy’n cynnwys cyn-aelodau Sen Segur, Ben a George, yn agor y noson gyda’u swyn-ganeuon crefftus.

 

Cerddor a chyfansoddwr sy’n hanu o’r gogledd yw Dafydd Owain. Mae’n adnabyddus am ei gyfraniadau i nifer o fandiau fel Palenco, Bür Hoff Bau, Omaloma, Jen Jeniro ac Eitha Tal Ffranco, ac mae bellach yn cerfio llwybr newydd fel artist unigol o dan yr enw fymryn yn ddi-ddychymyg, ‘Dafydd Owain’. 'Uwch Dros y Pysgod' yw gwaith unigol cyntaf Dafydd. Dyma gasgliad o ganeuon lled-hunangofiannol sydd wedi’u gosod mewn pentref dychmygol o dan yr un enw. Mae Dafydd yn adrodd ei stori drwy hynt a helynt trigolion dychmygol ‘Uwch Dros y Pysgod’. Recordiwyd yr albwm yn Stiwdio Sain, Llandwrog, gyda’r cynhyrchydd Llŷr Pari (Omaloma, Melin Melyn, Bitw) a bydd yn cael ei rhyddhau ym mis Mai 2023 ar Recordiau I Ka Ching.

Prisiau:

£12

Doors: 8pm

Ffenest: 8:30pm 

Dafydd Owain: 9:30pm

Close: 10:40pm

Tocynnau ac Amseroedd