
Yn barod amdani ar ôl rhes o sioeau yng Ngŵyl Ymylol Caeredin, mae Tom Ward yn dychwelyd gyda champwaith newydd sbon o arsylwadau anghyffredin a gwyriadau mympwyol o’r radd flaenaf. Mae ei hoff themâu wedi’u cynnwys yma: cariad, rhyw, byw mewn tŷ... Ond y tro yma mae’n mentro y tu hwnt i’w faestref annwyl i drafod y blaned, iechyd meddwl, a gwleidyddiaeth rhywedd. Yn dychwelyd ar ôl hir ymaros, dyma Anthem Tom i fyd anfodlon.
Mae Tom Ward wedi ymddangos ar Live at The Apollo ar BBC2, The Stand-Up Sketch Show ar ITV2, Live from the BBC ar BBC Worldwide, a Roast Battle, Stand up Central a Live From The Comedy Store ar Comedy Central.
Yn ddiweddar fe gyflwynodd Tom gyfres LAD Bible ‘In My Personal Space’, gan gyfweld enwogion fel Kyle Walker, Lady Leeshurr, a Jamie Laing.
Mae wedi cefnogi Jack Whitehall, Joe Lycett a Sindhu Vee a Jason Manford ar daith, ac wedi gwneud tair sioe unigol yng Ngŵyl Ymylol Caeredin.
Clod i Anthem:
One4Review ★★★★
Broadway Baby ★★★★
Metro ★★★★
Beyond The Joke ★★★★
The Student ★★★★
Clod arall:
‘Dawn wirioneddol gyffrous’ ★★★★★ The Herald
‘Seren ar waith’ Time Out ‘Inspired’★★★★★
The List ‘Hollol ogoneddus’ ★★★★