
Mae Tic Toc - y sioe gerdd ddwyieithog gyda chast o fenywod a band byw yn ôl yn Chapter. Cyflwyna’r sioe sleisen o hanes Cymru wedi ei seilio ar straeon gwir y menywod fu’n gweithio yn y ffatrïoedd ddaru oresgyn streics, y ffatrïoedd yn cau, anffafriaethau a helbulon, drwy ganu, chwerthin a dawnsio a gyda nerth eu cyfeillgarwch. Parha eu pleser yng ngherddoriaeth eu hieuenctid a rhy eu caneuon gipolwg i mewn i’w heneidiau.
Grŵp mor glos, ond nawr fod aduniad wedi’i drefnu, mae un ohonynt heb ei gwahodd. Mae chwerwder, loes a thensiwn. Beth petai hi’n dod beth bynnag? Ble mae hi ar ôl yr holl flynyddoedd? Mae dyhead i’w gweld ond hefyd arswyd.
Yn raddol datgelir y gorffennol ag arweiniodd y menywod i’r cyflwr yma. A wnaiff gelyniaeth drechu clymau cariad a chyfeillgarwch a ail-daniwyd?
Llun: Kirsten McTernan