
Mae gwdihŵ yn byw mewn tŷ bach clyd mewn boncyff gwag yn y goedwig. Ond gan fod gwdihŵ yn unig druan, mae’n canu iddo’i hun ac yn chwilio am ffyrdd i ladd yr amser. Mae’n pendroni llawer am bethau. Beth fyddai’n digwydd pe bai’n gwahodd y gaeaf i mewn i’w dŷ? Ydi gwdihŵ yn gallu bod mewn dau le ar yr un pryd?
Wrth i’w ddychymyg garlamu, mae pethau o’i gwmpas yn dechrau dod yn fyw. Ac mae’n dod o hyd i ffrind yn sydyn, ffrind sy’n barod i’w ddilyn i ben draw’r byd... os yw gwdihŵ’n dymuno hynny neu beidio!