
Theatr Seligman
Yn THE REVENGE OF POPPERFACE, mae hunan-gysgod neu ego arall yr artist Gareth Chambers yn gwahodd cynulleidfaoedd i wylio mytholegau personol yn cael eu crefftio mewn amser go iawn, drwy ddawns, crefft ymladd cymysg, a bocsio.
Mae Popperface yn atgyfodi, gan gofleidio eu henw wrth ymgorffori’r gor-ddefnydd o amyl nitrad (poppers) â gwefus las ac yn chwyddedig. Ar gyfer y perfformiad 45 munud yma, mae’r cyfriniol a’r operatig yn curo gyda’i gilydd, gan weithio tuag at grescendo tanddaearol, wedi’i ymdrochi yng nghân estynedig yr arloeswr disgo o Ffrainc (ac awen Salvador Dali), Amanda Lear.
Archwiliad arbrofol o’r gwrywaidd gan ddefnyddio gwaith ymchwil a datblygiad a wnaed yn Hull, Nottingham ac yn ystod y cyfnod clo, wedi’i grisialu ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, a’i gyflwyno gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.
Rhybudd: Bydd y perfformiad yma’n cynnwys tarth, golygfeydd o noethni, golygfeydd o drais, gyda gwaed ffug a cherddoriaeth swnllyd.